Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta ac yfed yn dda

I'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gydag Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol nid oes cyngor penodol na gwahanol ynghylch diet. Er mwyn teimlo’n iach, mae’n bwysig yfed digon a bwyta deiet maethlon. Mae hefyd yn ddefnyddiol cael patrwm bwyta rheolaidd. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o egni gyda chi, a byddwch chi’n helpu eich system imiwnedd i atal salwch a heintiadau.

Mae bwyta’n dda yn golygu eich bod yn cael y maint iawn o egni (calorïau) a maetholion (protein, brasterau, carbohydradau, ffibr, fitaminau a mwynau) bob dydd, fel y gall eich corff weithio’n dda a’ch amddiffyn rhag salwch.

Bydd deiet cytbwys yn cynnwys digonedd o ffrwythau a llysiau, bwydydd startshlyd gwenith cyflawn, a rhai bwydydd protein, er mwyn rhoi cyflenwad da i chi o’r maetholion sydd eu hangen arnon ni.

Does dim bwydydd nac ychwanegiad penodol a all atal pobl rhag dal COVID-19 neu leihau symptomau Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol - fodd bynnag, gall deiet cytbwys ac amrywiol helpu i wneud y gorau o iechyd, imiwnedd a lles.

Efallai y byddwch chi’n cael symptomau sy’n gallu achosi diffyg chwant bwyd, a gall y symptomau hyn eich atal rhag bwyta cymaint ag a fyddech chi fel arfer.

Mae rhai pobl â COVID Hir yn canfod eu bod yn colli pwysau wrth i'w blas a'u harogl gael eu heffeithio. Mae eraill sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol yn canfod eu bod yn ennill pwysau oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu fod yn egnïol. Os, ar ôl ceisio bwyta'n iach eich hun, rydych chi'n dal i boeni am eich pwysau, gofynnwch i'ch tîm Gofal Iechyd eich atgyfeirio at Ddeietegydd.

Efallai y bydd rhai pobl sydd â diagnosis o COVID-19 hefyd yn cael problemau llyncu a/neu newidiadau i'ch llais. Os nad yw'r rhain yn gwella ac os ydych yn credu y gallai fod angen mewnbwn arbenigol, gofynnwch i'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (e.e. Nyrs, Therapydd, Meddyg Teulu neu Ymgynghorydd) eich atgyfeirio at Therapydd Iaith a Lleferydd.

Rhagor o wybodaeth am fwyta ac yfed yn dda gyda Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol.

Mae'r Association of UK Dietitians wedi cynhyrchu tudalen wybodaeth i bobl â COVID Hir: ac un ar gyfer ME/CFS: Enseffalomyelitis Myalgig (neu Enseffalopathi) / Syndrom Blinder Cronig (ME/CFS) | Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA)

Dilynwch ni: