Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Gwasanaeth amlbroffesiynol sy’n arbenigo mewn awtistiaeth yw’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Mae’n cynnal asesiadau i oedolion sy’n credu y gallai fod awtistiaeth gyda nhw ac yn rhoi cymorth i oedolion awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl awtistig. Ymhlith staff y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig mae:

  • Nyrs/Arweinydd y Tîm
  • Seicolegydd Clinigol
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Therapydd Iaith a Lleferydd
  • Ymarferydd Arbenigol Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Gweithwyr Cymorth Cymunedol
  • Gweinyddwr

Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn darparu’r gwasanaethau canlynol:

Oedolion sy’n credu eu bod nhw’n awtistig:

  • Gallan nhw wneud cais am asesiad awtistiaeth os nad oes anabledd dysgu neu anghenion iechyd meddwl eilaidd gyda nhw.

Gall oedolion awtistig fyddai’n hoffi cymorth gyda’u cyflwr fanteisio ar y canlynol:

  • Cymorth i ddeall awtistiaeth.
  • Cymorth uniongyrchol tymor byr e.e. cymorth gyda dod o hyd i waith, addysg, iechyd, a gweithgareddau hamdden a dyddiol.
  • Nifer o gyrsiau, e.e. cymorth ar ôl cael diagnosis a Sgiliau am Oes.
  • Cymorth gyda dod o hyd i wasanaethau eraill sy’n gallu cynnig cymorth.

Gall rhieni/gofalwyr oedolion awtistig fanteisio ar y canlynol:

  • Cwrs cymorth ar ôl cael diagnosis i ofalwyr ac aelodau o’r teulu
  • Gwybodaeth a chyngor.
  • Cyfeiriadau at wasanaethau eraill sy’n gallu rhoi cymorth iddyn nhw.

Gall rhieni/gofalwyr plant fanteisio ar y canlynol:

  • Gwybodaeth a chyfeiriadau at unigolion at wasanaethau eraill all gynnig cymorth iddyn nhw.

Gall gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau eraill gysylltu â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar gyfer y canlynol:

  • Ymgynghoriadau, cyngor, hyfforddiant a chymorth ar gyfer asiantaethau eraill sy’n gweithio gyda phobl awtistig.

Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cynnig cymorth unigol a chymorth trwy gyrsiau i oedolion awtistig a’u teuluoedd ynghylch amrywiaeth o bethau. Dyma rai enghreifftiau:

  1. Datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.
  2. Rheoli anawsterau synhwyraidd.
  3. Rheoli gorbryder.
  4. Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a hamddenol.
  5. Datblygu sgiliau byw dyddiol, e.e. talu biliau, siopa a choginio.
  6. Gwasanaethau eraill, e.e. gofal iechyd neu gymorth ynghylch cyflogaeth.

 

I bwy mae’r gwasanaeth?

Oedolion sydd angen asesiad ar gyfer awtistiaeth, oedolion awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl awtistig.

Mae system atgyfeirio agored gyda’r Gwasanaeth sy’n golygu bod unrhyw un sydd wedi ei rhestru uchod yn gallu atgyfeirio at y gwasanaeth drwy gwblhau’r dogfennau atgyfeirio perthnasol sydd ar waelod y dudalen hon. Bydd angen dychwelyd pob ffurflen atgyfeirio drwy’r post neu drwy e-bost at y cyfeiriad sydd i’w weld yn y manylion cyswllt.

Sylwch: Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gallu cynnig gwasanaeth i unigolion sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn unig. Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae’r Gorllewin yn rhoi cymorth i unigolion sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae manylion y gwasanaeth hwn i’w gweld yma:

https://autismwales.org/cy/gwasanaeth-awtistiaeth-integredig/baer-gorllewin/

 

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Dydy’r gwasanaeth hwn ddim yn cynnig y canlynol:

  • Gwaith uniongyrchol â phlant.
  • Cymorth uniongyrchol i oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Fodd bynnag, rydyn ni’n rhoi cymorth i’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y meysydd hyn.
  • Triniaeth uniongyrchol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl e.e. gorbryder.
  • Presgripsiynu/monitro moddion.
  • Ymyrraeth frys.
  • Gofal seibiant.
  • Ymateb cyflym.
  • Asesiadau diagnostig i bobl dan 18 oed.
  • Triniaeth neu reoli gofal tymor hir.

(Mae gwasanaethau eraill ar gael sy’n gallu helpu gyda’r materion hyn).

 

Amseroedd agor
9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener

 

Beth i'w ddisgwyl

Ar gyfer asesiadau am atgyfeiriadau awtistiaeth: Pan fydd eich atgyfeiriad wedi dod i law ac ar ôl i ni ei frysbennu a’i dderbyn, byddwch chi’n cael gwybod eich bod chi ar ein rhestr aros.

Cyn eich asesiad, byddwch chi’n cael dau holiadur i’w cwblhau a gwahoddiad i ddau apwyntiad am asesiad. Bydd yr apwyntiad cyntaf dros y ffôn neu dros fideo a bydd yr ail apwyntiad wyneb yn wyneb. Ar ôl eich asesiad, byddwch chi’n cael cyngor ynghylch y camau nesaf yn ogystal ag adroddiad o ganlyniad eich asesiad ac argymhellion.

Ar gyfer atgyfeiriad am gymorth: Os bydd yn briodol, byddwch chi’n cael cynnig ymgynghoriad cychwynnol ag aelod o’n tîm fydd yn asesu eich anghenion ac yn creu cynllun gyda chi. O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwnnw, mae’n bosib y byddwn ni’n cynnig cymorth i chi drwy un o’n cyrsiau, yn eich atgyfeirio chi at wasanaethau eraill neu’n cynnig cymorth unigol i chi.

 

Manylion cyswllt
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Llawr Gweinyddol 2
Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ
Ffôn:01443 715044
E-bost: CTT_IAS@wales.nhs.uk

Dilynwch ni: