Neidio i'r prif gynnwy

Ymdopi ag Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol

Mae hwyliau isel a phryder yn symptomau cyffredin o Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol, p'un a ydyn nhw’n rhan o'r proffil symptomau neu'n ganlyniad i'r symptomau a'r tarfu ar 'fywyd normal'. Yn y Gwasanaeth Blinder Sylfaenol, rydym yn deall y gallech fod yn profi hwyliau isel a phryder. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun yn y ffordd rydych chi'n teimlo, ac rydyn ni yma i'ch helpu a'ch cefnogi.

Gall symptomau hwyliau isel neu bryder gynnwys: 

  • Teimlo'n drist, diffyg hyder, teimlo’n grac neu'n rhwystredig
  • Problemau wrth gysgu, neu gysgu gormod
  • Teimlo'n ddigymell a cholli diddordeb yn eich gweithgareddau arferol
  • Aflonyddwch, teimlo’n gynhyrfus neu fwy blin
  • Problemau wrth ganolbwyntio a phryderu parhaus
  • Symptomau corfforol fel pendro, brest dynn, blinder, tensiwn a phoenau cyhyrau, crychguriadau’ galon, poen stumog a chyfog.

Gall y symptomau hyn waethygu'r symptomau Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol.

Ar hyn o bryd mae elfen Seicoleg y Gwasanaeth Blinder Sylfaenol yn cynnig grwpiau therapiwtig i'ch helpu i ddysgu sgiliau newydd i ymdopi â gwahanol symptomau Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol a symud tuag at fyw bywyd mwy boddhaus.

Gall sylw i gwsg o ansawdd da a rheoli blinder gwell hefyd gyfrannu at wella hwyliau a phryder.

Mae rhagor o wybodaeth am hwyliau isel a phryder isod

(mae'r wybodaeth hon yn benodol i COVID Hir ond mae ein harbenigwyr wedi ei wirio ac mae’r un mor berthnasol i bobl sy'n byw gydag ME/CFS neu Flinder Ôl-feirysol):

Os ydych chi'n cael trafferth gyda phryder parhaus neu hwyliau isel, yn teimlo'n anobeithiol, neu'n cael meddyliau am hunanladdiad, mae'n bwysig, eich bod chi'n siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac yn cael help. Gallwch siarad â’ch Meddyg Teulu, Ymarferydd Nyrsio neu Weithiwr Iechyd Meddwl yn eich meddygfa neu glinig iechyd meddwl. Gallwch hefyd ddod o hyd i gymorth gan y Samariaid (Rhif ffôn: 116123), a chefnogaeth emosiynol SMS (neges testun) drwy SHOUT (tesctiwch 85258)

Dilynwch ni: