Neidio i'r prif gynnwy

Blas ac arogl

Mae haint COVID-19 yn gallu cael effaith sylweddol ar flas ac arogl. Gall effeithiau hyn fod yn sylweddol ar ansawdd bywyd a gall yr adferiad fod yn wahanol iawn i bob unigolyn.

Efallai y byddwch yn colli eich blas a/neu arogl yn llwyr, yn gymedrol neu’n rhannol. Mae newid blas ac arogl yn gyffredin ar ôl COVID ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw feddyginiaeth i helpu gwella hyn, ond gallai defnyddio’r cyngor canlynol fod o gymorth:

AROGL:

Anosmia yw'r enw ar golli'r synnwyr arogli'n llwyr.

Os yw eich synnwyr arogli'n pylu neu'n lleihau, fe'i gelwir yn Hyposmia.

Mae rhai pobl yn cael 'Phantosmia' sef arogli arogleuon sydd ddim wir yna ac mae rhai pobl yn cael cyfuniad o'r rhain.

Gall hyn wella ohono'i hun, neu dros amser, ond i nifer fach o bobl gall y newidiadau hyn fod yn rhai hirdymor. Mae’r dystiolaeth a’r ymchwil yn cael eu diweddaru’n barhaus ac rydyn ni’n dal i ddysgu am y peth, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud a allai fod o gymorth i annog eich synnwyr arogli i wella a dychwelyd. Mae hyfforddiant arogl yn un peth a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Hyfforddiant arogli

Dangoswyd mewn sawl astudiaeth bod hyfforddiant arogli’n helpu adferiad. Mae hyfforddiant arogli’n helpu i ysgogi'r “system arogleuol” sef y cysylltiad rhwng y trwyn a'r ymennydd lle mae arogleuon yn cael eu hadnabod. Gellir ysgogi'r system hon er mwyn helpu i wella.

Mae gwella’n cymryd amser a gall gymryd ychydig wythnosau, misoedd neu flynyddoedd. Mae'n bwysig parhau i wneud hyfforddiant arogli hyd yn oed os ydych chi'n teimlo nad yw'n gweithio oherwydd gall gymryd misoedd i hyd yn oed ddechrau gwella. Ni ellir rhagweld gallu unigolyn i wella na'r amser y gall ei gymryd mewn gwirionedd, ond gall hyfforddiant arogli helpu. Mae yna adnoddau rhagorol ar-lein ar wefannau Abscent a FifthSense. (gweler y dolenni isod)

Mae'n ddefnyddiol gwylio'r fideos sy'n dangos sut i ddefnyddio sniffiadau bychain i ysgogi’r nerfau arogleuol, yn hytrach nag anadlu'n rhy ddwfn ac osgoi'r nerf hwn. Gall y nerf hwn gymryd amser hir i wella felly mae amser, amynedd, cymhelliant a dyfalbarhad yn hanfodol ac mae angen ymrwymiad er mwyn dal i wneud hyfforddiant arogli am o leiaf bedwar mis neu fwy, gan arogli pedwar arogl

ddwywaith y dydd bob dydd. Gall gwella arogl achosi newidiadau dros dro (Parosmia) ond mae hwn yn gyfnod normal yn ystod adferiad ac yn arwydd da bod gwelliant yn digwydd ac mae’n anogaeth i ddyfalbarhau.

Blas:

Efallai y bydd bwyd a diod yn blasu’n wahanol neu’n annymunol yn dilyn eich salwch COVID.

Efallai y bydd bwyd fod yn blasu’n ddiflas, yn wahanol, yn fetelaidd, yn rhy felys neu'n rhy hallt. Mae'n bwysig parhau i flasu amrywiaeth o fwydydd hyd yn oed os nad oeddech chi’n eu hoffi o'r blaen. Mae diet iach, maethlon sy'n cynnwys llawer o lysiau, ffrwythau, grawn cyflawn a phrotein yn bwysig i ysgogi synhwyrau blas ac arogl, eich cynorthwyo i wella a chefnogi'ch system imiwnedd. Dilynwch y cyngor 'Bwyta'n Iach'. Bwytewch yn rheolaidd, ceisiwch beidio â chyfyngu ar faint rydych chi’n ei fwyta gan y gallai hyn effeithio ar eich archwaeth, eich pwysau a’ch adferiad.

Gall yr awgrymiadau canlynol helpu:

  • Cynnal hylendid y geg (e.e. glanhau dannedd yn rheolaidd) a hydradiad da
  • Defnyddiwch brydau parod maethlon neu fwydydd oer os ydych hefyd yn dioddef o flinder ac yn cael trafferth coginio. Bwytewch fwydydd ar dymheredd ystafell os yw arogl coginio yn effeithio ar eich archwaeth bwyd.
  • Rhowch gynnig ar fwydydd plaen (reis plaen, tatws wedi'u berwi, pasta) os ydych chi'n cael anhawster gydag arogl neu flas sydd wedi newid
  • Rhowch gynnig ar wahanol flasau, gweadau, tymheredd i weld pa fwydydd sydd fwyaf blasus i chi
  • Ychwanegwch saws, sbeisys, perlysiau, picls, mwstard a cheisiwch farinadu bwydydd er mwyn i chi gael amrywiaeth o flasau a gwella’r ysgogiad synhwyraidd
  • Gall cyllyll a ffyrc plastig fod yn ddefnyddiol os oes gan fwydydd flas metelaidd
  • Gall melysu bwyd a/neu ddiod gydag ychydig o fêl/siwgr fod yn ddefnyddiol ar gyfer newidiadau sy’n blasu’n hallt neu’n chwerw

Mae bwyta'n ystyriol hefyd yn ddefnyddiol er mwyn defnyddio'ch holl synhwyrau yn y foment cymaint â phosibl. Gall golwg, sain, cyffyrddiad, gwead, arogl, blas a chof eich helpu i gael pleser wrth fwyta ac yfed unwaith eto.

Mwy am Flasu ac Arogli
  • ENT UK: www.entuk.org
  • Abscent, gwybodaeth am golli’r gallu i arogl a chanllawiau i ailhyfforddi arogli gan ddefnyddio pecynnau y gellir eu prynu drwy'r wefan neu eu gwneud gartref
  • Fifthsense, Cefnogaeth i bobl sy'n dioddef anhwylderau arogli a blasu ac awgrymiadau ar sut i'w rheoli.
Dilynwch ni: