Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Seicoleg Diabetes

Yr argymhelliad yw bod pob plentyn a pherson ifanc sy'n byw â Diabetes yn cael cymorth seicoleg fel rhan o'i ofal Diabetes arferol.

Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod bod byw gyda Diabetes yn gallu bod yn anodd iawn. Mae'n gallu cael effaith fawr ar eich lles meddyliol. Mae llawer i feddwl amdano a fedrwch chi ddim cymryd diwrnod i ffwrdd o Ddiabetes – felly mae'n ddealladwy i deimlo dan straen ac wedi'ch llethu weithiau.

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd ymdopi â Diabetes, efallai y bydd y Seicolegydd Diabetes yn gallu helpu.

​ 

Gyda beth allwn ni helpu?

Mae'r Seicolegydd Diabetes yn rhan o’r tîm Diabetes Pediatrig ac efallai y byddwch chi’n ei weld mewn clinig ac mewn digwyddiadau eraill fel sesiynau addysg SEREN. 

Nod y gwasanaeth yw helpu pobl ifanc a'u teuluoedd i 'fyw'n dda' â Diabetes. Mae hyn yn golygu gallu rheoli Diabetes heb deimlo ei fod yn 'cymryd drosodd' eich bywyd ac yn eich rhwystro chi rhag gwneud y pethau sy'n bwysig i chi. 

Er ei bod yn ddealladwy weithiau i deimlo rhwystredigaeth neu ofid gyda Diabetes, mae'n bwysig ceisio cymorth os byddwch chi'n sylwi bod Diabetes yn gwneud i chi deimlo'n wael amdanoch chi'ch hun neu'n achosi i chi deimlo'n isel, yn bryderus neu dan straen.

 

Rydyn ni'n helpu pobl gyda phob math o anawsterau, gan gynnwys:

  • Pryderon am sut mae Diabetes yn effeithio ar eich bywyd.
  • Delio â theimladau'n ymwneud â Diabetes, fel teimlo'n wahanol i'ch ffrindiau, pryder, tristwch neu ddicter.
  • Teimlo nad yw'n deg eich bod chi’n gorfod ymdopi â Diabetes
  • Eich cefnogi chi pan fydd rheoli eich Diabetes yn gwneud i chi deimlo dan straen ac wedi’ch llethu.
  • Helpu gydag effaith Diabetes ar berthnasoedd teuluol
  • Ymdopi â thriniaethau y gallech chi fod yn teimlo'n bryderus amdanyn nhw, fel nodwyddau.
  • Helpu gyda thechnegau i wneud newidiadau cadarnhaol.
  • Ymdopi â newidiadau mewn pwysau, arferion bwyta a delwedd y corff.
  • Pryderon am yr ysgol.
  • Cefnogi rhieni, brodyr a chwiorydd.

 

​Os hoffech chi gael apwyntiad, gofynnwch i'ch Meddyg Ymgynghorol, Deietegydd neu Nyrs Glinigol Arbenigol.

Dilynwch ni: