Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd mewn sesiwn?

Gallai apwyntiad seicoleg gael ei gynnal mewn amrywiaeth o safleoedd yn BIP CTM. Byddwn ni’n ceisio ei gynnal lle mae'n fwyaf cyfleus i chi lle bo hynny'n bosibl.


Apwyntiad Cyntaf

Pan fydd teulu'n cael eu gweld am y tro cyntaf, byddan nhw’n cael apwyntiad o hyd at 50 munud. Yn ystod y cyfarfod hwn bydd pawb sy'n mynychu yn cael cyfle i siarad am yr anawsterau maen nhw'n eu hwynebu a meddwl amdanyn nhw. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn, os bydd y Seicolegydd Clinigol Pediatrig yn credu y gall fod o help, bydd yn sôn wrth y teulu am beth fydd hyn yn ei olygu ac yn eu gwahodd i benderfynu a ydyn nhw am fwrw ymlaen. Efallai mai dim ond un neu ddau gyfarfod y bydd eu hangen arnoch chi, neu efallai y bydd angen mwy. Mae'n amrywio i wahanol bobl a phroblemau. 

​Yn eich apwyntiad cyntaf, mae'n ddefnyddiol i ni glywed popeth amdanoch chi, eich bywyd, hobïau, ysgol/coleg/gwaith, ffrindiau a theulu, a chael gwybodaeth am eich cyflwr meddygol.  Byddwn ni hefyd yn meddwl gyda'n gilydd am yr anawsterau rydych chi wedi bod yn eu profi, sut mae'r rhain yn effeithio ar eich bywyd a'ch cyflwr, a sut rydych chi a'ch teulu'n ymdopi. 

Rydyn ni'n helpu pawb mewn ffyrdd gwahanol ac mae gennym ni lawer o dechnegau therapi gwahanol, gan gynnwys:

  • Gofyn cwestiynau a siarad am unrhyw beth rydych chi'n cael anhawster gydag ef neu y gallech chi fod eisiau help ar ei gyfer. 
  • Gofyn i chi gadw dyddiadur o rai teimladau neu ymddygiadau.
  • Chwarae gemau arbennig neu arlunio.
Rydyn ni'n 
Dydyn ni ddim yn
Hoffi siarad â chi Gwisgo cotiau gwyn
Hoffi gwrando arnoch chi Rhoi meddyginiaeth neu archwiliadau i chi
Gofyn am eich meddyliau a'ch teimladau neu bethau a allai deimlo'n anodd Darllen meddyliau
Holi am eich bywyd gartref, yn yr ysgol a gyda'ch ffrindiau Gwneud penderfyniadau drosoch chi
Chwarae gemau ac arlunio Eich barnu
Cymryd eich pryderon o ddifrif a gwneud ein gorau i'w helpu i deimlo'n haws Anwybyddu beth rydych chi'n ei deimlo
 
​Apwyntiadau Attend Anywhere

Weithiau, efallai y byddwn ni’n cynnig apwyntiad ar-lein i chi. Erbyn hyn, rydyn ni’n defnyddio ap ar-lein o'r enw 'Attend Anywhere' i gynnal rhai o'n sesiynau seicoleg. Mae Attend Anywhere yn gweithio yn yr un ffordd ag apiau fideo eraill, lle byddwch chi'n ein gweld ni a'n clywed ni ar gamera a byddwn ni’n gallu eich gweld a'ch clywed chi. Pan fyddwch chi’n derbyn apwyntiad gennym ni, byddwn ni’n anfon cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio Attend Anywhere. Efallai bydd apwyntiadau ar-lein yn teimlo ychydig yn wahanol, ond gallwn ni siarad am hyn gyda'n gilydd. 

 

Apwyntiadau dilynol

Os byddwn ni’n credu y byddai'n ddefnyddiol i chi ddychwelyd ar gyfer apwyntiadau pellach, fel arfer bydd hyn yn cael ei drefnu yn yr apwyntiad cyntaf. Bydd apwyntiadau dilynol yn ein galluogi ni i ddod i'ch adnabod chi’n well, i siarad am bethau a allai fod yn anodd yn fanylach, ac i lunio cynllun i’ch cefnogi chi a'ch teulu. 

Rydyn ni’n defnyddio nifer o wahanol therapïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i geisio helpu. Hynny yw, rydyn ni’n gwybod o’r gwaith ymchwil sydd wedi cael ei wneud bod y rhain yn gallu bod o gymorth i blant a phobl ifanc sy'n profi'r un mathau o anawsterau â chi. Gallai'r rhain gynnwys: 


Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) 

 

 Therapi Derbyn ac Ymrwymo 

 

Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi

 

Therapi EMDR

 

Hefyd, byddwn ni’n defnyddio strategaethau ysgogol i weithio gyda'n gilydd i chwalu nod mwy yn ddarnau llai, cyraeddadwy, gan feddwl a chynllunio sut i deimlo'n frwdfrydig ynghylch cyrraedd y nodau hyn. 

Gallwn ni hefyd ddefnyddio dulliau systemig, sy’n golygu gweithio gyda'r teulu cyfan, a systemau eraill o amgylch person ifanc sydd â chyflwr meddygol er enghraifft, ysgol neu eich tîm meddygol.  

Efallai y byddwn ni'n cyfarfod â phlant (hŷn) ar eu pennau eu hunain, gyda rhieni ar eu pennau eu hunain, neu gyda'r teulu cyfan gyda'i gilydd.

Dilynwch ni: