Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallwn ni helpu?

Pan fydd gan bobl ifanc broblemau iechyd gall achosi gofid iddyn nhw ac i bawb yn y teulu weithiau. Gall cael anawsterau gyda'ch iechyd deimlo'n anodd a gall effeithio ar eich meddyliau, eich teimladau, eich ymddygiad a'ch lles. Mae ein gwasanaeth yn cynnig cyfle i bobl ifanc a'u teuluoedd siarad am y pethau hyn a gweithio gyda'i gilydd, lle y bo’n briodol, i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â phethau all eu helpu i ymdopi â'u sefyllfa. Mae'r ffordd mae plant a theuluoedd unigol yn ymdopi â'r heriau sy'n eu hwynebu, ac yn addasu iddyn nhw, yn gallu bod yn wahanol i bawb.

Mae rhieni, plant a phobl ifanc yn dod i weld y tîm am bob mathau o resymau. Rydyn ni'n helpu pobl gyda phob math o anawsterau, gan gynnwys:

  • Ymdopi â thriniaethau y gallech chi fod yn teimlo'n bryderus amdanyn nhw.
  • Eich cefnogi i fyw gyda’ch cyflwr meddygol a’i reoli.
  • Helpu gyda thechnegau i wneud newidiadau cadarnhaol.
  • Emosiynau cryf megis tristwch, ofn neu ddicter.
  • Ymdopi â nodwyddau, cymryd tabledi, profion meddygol a gwaed.
  • Eich helpu i wneud penderfyniadau am eich triniaeth.
  • Rheoli poen.
  • Ymdopi â blinder ac iselder.
  • Ymdopi â newidiadau mewn pwysau, arferion bwyta a delwedd y corff.
  • Pryderon am sut mae'ch cyflwr yn effeithio ar eich bywyd.
  • Delio â theimladau sy'n gysylltiedig â'ch cyflwr fel teimlo'n wahanol.
  • Pryderon am yr ysgol.
  • Problemau corfforol sy'n gwaethygu pan fyddwch chi’n poeni.
  • Cefnogi rhieni, brodyr a chwiorydd plentyn sâl.
  • Ymdopi â galar a phrofedigaeth.
Dilynwch ni: