Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni?

Beth yw Seicolegydd Clinigol?

Mae Seicolegydd Clinigol wedi'i hyfforddi i ddeall sut mae plant a phobl ifanc yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Rydyn ni’n gwrando ar eu pryderon ac yn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ymdopi â’r anawsterau sy'n gallu deillio o gael triniaeth neu gyflwr meddygol. Rydyn ni'n ceisio deall eu sefyllfa a'u helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Rydyn ni’n gweithio gyda gweddill y tîm yn yr ysbyty gan gynnwys eich meddygon, eich nyrsys, a'ch therapyddion. Mae Seicolegwyr Clinigol dan hyfforddiant yn gweithio gyda ni hefyd. Efallai y byddwch chi’n ein gweld ni mewn Clinigau Plant.

 

Cyfarfod â’r Tîm

Dr Bethan Phillips

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol mewn Pediatreg

Dr Jess Broughton

Seicolegydd Clinigol mewn Diabetes Pediatrig

Alex Hitchings
 
Swyddog Gweinyddol Seicoleg Pediatrig – Ysbyty Tywysoges Cymru
Dr Gareth David
 
Seicolegydd Clinigol mewn Pediatreg
"Helo, fy enw i yw Bethan. Fi yw Arweinydd y Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Pediatrig. Rydw i'n gweithio gyda phlant a theuluoedd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Rydw i hefyd yn rhoi cefnogaeth i'r unedau babanod newydd-anedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty’r Tywysog Siarl.” "Helo, fy enw i yw Jess. Fi yw'r Seicolegydd Clinigol ar gyfer y gwasanaeth diabetes pediatrig. Rydw i'n gweithio gyda phlant sydd â diabetes a'u teuluoedd ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg." "Helo, fy enw i yw Alex a fy rôl i yn yr adran Seicoleg yw cefnogi Dr Phillips a Dr Broughton gyda thasgau gweinyddol a chlercol." "Helo, fy enw i yw Gareth. Rydw i’n Seicolegydd Clinigol Pediatrig sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ardaloedd Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ein bwrdd iechyd."
Dilynwch ni: