Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf am ein gwasanaethau

Prif flaenoriaeth Cwm Taf Morgannwg (CTM) yw eich cadw chi’n ddiogel a sicrhau bod cynifer o wasanaethau hanfodol a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol ar gael eto i’w boblogaeth leol, a hynny wrth ddiogelu iechyd a diogelwch cymunedau CTM, defnyddwyr ei wasanaethau a’i staff.

Mae CTM yn monitro’r datblygiadau o ran COVID-19 yn agos ac yn cymryd camau gweithgar i gyflwyno newidiadau i’w wasanaethau sydd wedi gweithio, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Mae’r canllawiau ar atal yr haint wrth wraidd ein holl benderfyniadau.

Mae ein Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth allweddol ynglŷn ag ymateb parhaus CTM i COVID-19, ac mae’n cymryd mesurau i leihau effaith y feirws. Bydd CTM yn parhau i’ch cadw chi’n gyfoes ynglŷn â’r newidiadau diweddaraf i’n gwasanaethau.

Mae’n bosib y bydd rhai gwasanaethau’n ailddechrau’n ddiweddarach ac yn cael eu cynnal mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r arfer. Gofynnwn am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad parhaus wrth i ni ddelio â’r newidiadau hyn. Gyda’n gilydd, gallwn ni atal lledaeniad y coronafeirws a chadw ein cymunedau’n ddiogel.

Rydyn ni wedi sefydlu llinell gymorth i gleifion ynglŷn ag ailgychwyn gwasanaethau, a gallwch chi gysylltu â’r llinell hon am gyngor cyffredinol ynglŷn â’r gwaith hwn.

Sylwch nad oes modd i’r tîm ddelio ag ymholiadau clinigol. Os oes angen cyngor clinigol arnoch chi ynglŷn â’ch cyflwr iechyd, cysylltwch â'ch fferyllfa leol, defnyddiwch wefan GIG 111, cysylltwch â'ch meddyg teulu, eich uned mân anafiadau leol neu, os oes argyfwng, eich adran achosion brys leol.

Llinell Gymorth ynglŷn ag Ailgychwyn Gwasanaethau:
01443 443058

CTM.RestartingServicesSupport@wales.nhs.uk
Mae'r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 9am a 4.30pm

Dilynwch ni: