Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i wasanaethau oherwydd COVID-19 – Gwasanaeth Trawma ac Orthopedig

Oherwydd y sefyllfa sydd ohoni gyda COVID-19, mae’r ffordd rydyn ni’n darparu gofal yn y Gwasanaeth Trawma ac Orthopaedeg wedi bod yn gyfyngedig ers mis Mawrth 2020. 

Mae Gwasanaeth y Clinig Torasgwrn yn cael ei gynnal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.  

Bydd y tîm dan arweiniad ymgynghorydd yn cynghori ynghylch atgyfeiriadau brys o’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, yr Uned Mân Anafiadau, y Gwasanaeth Ffisiotherapi Acíwt a meddygon teulu. Dydy'r tîm ddim yn ymateb i unrhyw ymholiadau unigol gan gleifion.  

Mae modd cynnal apwyntiadau dilynol dros y ffôn os bydd y claf (neu'r rhiant) yn hunan-ynysu.  

Mae’n bosib y bydd y Bwrdd Iechyd yn dewis peidio cynnal llawdriniaeth ar rai mathau o anafiadau os yw’r risg y bydd y claf yn dal COVID-19 neu haint yn sgil mewnblaniad ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty yn rhy fawr. I’r anafiadau hyn, mae’n bosibl y bydd angen i’r Bwrdd Iechyd gynnal y llawdriniaeth yn hwyrach ymlaen pan fydd yn ddiogel. 

Dim ond achosion trawma brys mae’r gwasanaeth yn eu derbyn ar hyn o bryd, ac eithrio nifer fach o achosion clinigol ddifrys lle bynnag y bo hyn yn bosib. Does dim llawdriniaeth arferol ar y cymalau’n cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae rhai llawdriniaethau mawr ar y cymalau ar gyfer cleifion brys sydd wedi aros am amser hir yn cael eu cynnal mewn canolfannau eraill. Os byddwch chi'n addas ar gyfer yr opsiwn hwn, bydd tîm y rhestrau aros yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth. 

Os oes unrhyw ymholiadau brys gyda chi sy’n ymwneud â chyfyngiadau’r gwasanaeth, gweler y manylion cyswllt isod: 

  • Os oes ymgynghorydd penodedig gyda chi yn barod, ffoniwch ei ysgrifennydd ar y rhif arferol am gyngor o 9am tan 5pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Bydd yr ysgrifennydd yn cysylltu â’r ymgynghorydd am ragor o gyngor. 
  • Ar gyfer problemau gyda phlaster, mae modd cysylltu ag Ystafell Plastr Ysbyty Brenhinol Morgannwg rhwng 9am a 5pm bob dydd ar 01443 443443 est 74049.  
  • Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn ag apwyntiadau sydd i ddod, mae modd cysylltu â’r dderbynfa cleifion allanol ar 01443 443443 est 73293. 
  • Ar gyfer achosion brys (rhwng 9pm a 9am) os na fydd modd aros tan y diwrnod nesaf, dylai cleifion naill ai ddod i’r adran ddamweiniau ac achosion brys neu gysylltu â’r gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau

Am unrhyw broblemau o ran trafnidiaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ambiwlans. 

Dilynwch ni: