Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Canser

Rydyn ni’n deall bod hon yn adeg bryderus iawn i gleifion canser. Fel Bwrdd Iechyd, rydyn ni’n dilyn y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gosod o ran cynnal gwasanaethau hanfodol, sy’n cynnwys:

  • Gofal brys
  • Archwilio cleifion sydd gydag arwyddion neu symptomau sy’n debygol iawn o fod yn rhai canser
  • Llawdriniaeth frys
  • Radiotherapi
  • Cemotherapi

Mae pob un o’n timau canser yn cynnal clinigau cleifion allanol ar gyfer atgyfeiriadau brys, ac mae mwyafrif y clinigau hyn yn cael eu cynnal ar safleoedd ysbyty anacíwt er mwyn diogelu cleifion agored i niwed. Mae Nyrsys Canser Arbenigol naill ai’n cysylltu â phob claf ag apwyntiad dilynol dros y we, neu maen nhw’n gweld cleifion yn y clinig yn un o’r ysbytai cymunedol lle nad yw cysylltu â chleifion ar lein yn briodol.

Mae penderfyniadau am driniaeth cleifion yn cael eu gwneud fesul achos, yn dilyn trafodaeth rhwng yr ymgynghorydd a’r claf. Pan fydd llawdriniaeth yn cael ei hystyried yn fater brys, byddwn ni’n trafod y manteision a’r risgiau gyda phob claf. Mae Tîm Oncoleg Felindre yn cysylltu â’u cleifion sy’n aros am gemotherapi er mwyn trafod eu cynllun triniaeth.

 

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Arbenigol Canser

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Arbenigol Canser BIP Cwm Taf Morgannwg yn cynnig gwasanaeth ar lein, ac mae’n gallu anfon cleifion ymlaen at yr adnoddau a’r gwasanaethau sydd ar gael. Gall cleifion anfon e-bost os oes ymholiad brys gyda nhw, neu gallan nhw godi’r ffôn.

 

Radiotherapi

Mae cleifion yn derbyn triniaeth o hyd yn Felindre, yn unol â’r cyngor cenedlaethol presennol. Bydd y tîm yn Felindre yn siarad â chi dros y ffôn i drafod eich triniaeth a’ch apwyntiad. Rhif y llinell gymorth yw 02920 196836.

 

Cemotherapi (Oncoleg)

Mae triniaeth yn cael ei darparu yn Felindre neu yn yr uned symudol, yn unol â’r cyngor cenedlaethol presennol. Bydd yr ymgynghorydd (neu aelod o’i dîm) yn siarad â chi dros y ffôn i drafod eich opsiynau ac i gytuno ar y ffordd ymlaen. Rhif y llinell gymorth yw 02920 316248.

 

Y pen a'r gwddf

  • Ysbyty’r Tywysog Siarl / Ysbyty Brenhinol Morgannwg – mae clinigau bellach yn cael eu darparu yn Ysbyty Cwm Rhondda neu ar-lein. Ffoniwch 01443 443443 est 74876.
  • Ysbyty Tywysoges Cymru – Mae clinigau’n rhedeg yn ôl yr arfer ac mae apwyntiadau dros y we ar gael. Ffoniwch 01656 752752 est 2107.

 

Wroleg

  • Ysbyty’r Tywysog Siarl / Ysbyty Brenhinol Morgannwg – Mae triniaeth wroleg yn cael ei darparu yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mae gan bob claf canser weithiwr allweddol i roi cymorth iddo. Mae llawdriniaeth yn cael ei gwneud yn Ysbyty’r Vale. Dylai cleifion gydag ymholiadau gysylltu â’i weithiwr allweddol. 
  • Ysbyty Tywysoges Cymru – Mae gwasanaethau brys i gleifion allanol, gwasanaethau diagnosteg ac wroleg yn rhedeg o hyd. Ffoniwch 01656 752887.

 

Dermatoleg

  • Ysbyty’r Tywysog Siarl / Ysbyty Brenhinol Morgannwg – Mae’r clinigau cleifion allanol yn cael eu cynnal yn Ysbyty Cwm Rhondda, Ysbyty Cwm Cynon neu drwy ymgynghoriad dros y ffôn. Gall cleifion gysylltu â’r Nyrsys Clinigol Arbenigol os oes ymholiadau gyda nhw, ac mae modd gwneud apwyntiad gydag ymgynghorydd os bydd angen. Ffoniwch 01443 443565 neu 01443 443443 est 74925.
  • Ysbyty Tywysoges Cymru – Mae clinigau cleifion allanol yn cael eu rhedeg o'r Feddygfa Newydd, Pen-coed. Rhif ffôn: 01656 752102.

 

Y colon a'r rhefr

Dydy Adran y Colon a’r Rhefr ddim wedi cau yn gyfan gwbl ar yr un o’n safleoedd ysbyty, ond rydyn ni wedi gorfod gwneud addasiadau i’n gwasanaethau yn ystod pandemig COVID-19. I gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser y coluddyn, mae triniaeth ar gael o hyd ar ffurf llawdriniaeth, radiotherapi a chemotherapi.

Mae cleifion sydd wedi eu hanfon at adran y colon y rhefr gyda symptomau yn cael eu brysbennu gan ymgynghorydd. I gleifion gyda chanser y colon a’r rhefr sy’n cyrraedd yr ysbyty gyda phroblemau brys fel rhwystriad yn y coluddyn neu rwyg yn y coluddyn, mae llawdriniaeth yn cael ei gwneud o hyd.

Os oes unrhyw ymholiadau gyda chi am eich gofal, cysylltwch â’r switsfwrdd isod a gofynnwch am gael siarad ag Adran y Colon a’r Rhefr.

  • Prif switsfwrdd Ysbyty Brenhinol Morgannwg – 01443 443443
  • Prif switsfwrdd Ysbyty’r Tywysog Siarl – 01685 721721
  • Prif switsfwrdd Ysbyty Tywysoges Cymru – 01656 752752

 

Anadlol

  • Ysbyty’r Tywysog Siarl – Mae clinigau ysgyfaint mynediad cyflym yn rhedeg yn ôl yr arfer. Mae clinigau ôl-lawdriniaeth yn cael eu cynnal dros y we. Ffoniwch 01685 728152/728527.
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg – Mae clinigau’n cael eu cynnal yn Ysbyty Cwm Rhondda neu dros y we, ac mae hyn yn cynnwys clinigau mynediad cyflym a chlinigau monitro Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint a monitro’r gwaed. Ffoniwch 01443 443443 est 74068/73579.
  • Ysbyty Tywysoges Cymru – Mae pob clinig yn cael ei gynnal dros y we neu dros y ffôn. Mae gwasanaethau’n cysylltu â chleifion dros y ffôn neu drwy lythyr i roi gwybod iddyn nhw am eu hapwyntiad. Mae’r Ganolfan Anadlol yn ymateb i bob galwad ar hyn o bryd ar 01656 752975.

 

Gastroenteroleg

  • Ysbyty’r Tywysog Siarl / Ysbyty Brenhinol Morgannwg – Mae clinigau’n cael eu cynnal dros y we lle bo hynny’n bosibl, neu yn Ysbyty Cwm Rhondda (ymgynghorydd a nyrs) neu Ysbyty Cwm Cynon (ymgynghorydd yn unig) Ffoniwch 01685 728724 (Ysbyty’r Tywysog Siarl) neu 01443 443443 est 73051/73542 (Ysbyty Brenhinol Morgannwg)
  • Ysbyty Tywysoges Cymru — Mae gwasanaethau'n parhau. Mae pob claf brys lle mae amheuaeth o ganser yn cael eu gweld ar hyn o bryd. Mae adolygiadau dros y ffôn yn cael eu cynnal pan fydd hynny’n bosib. Ffoniwch 01656 752987.

 

Gynaecoleg

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg / Ysbyty’r Tywysog Siarl – Mae’r gwasanaeth ar gael o hyd, a hynny dros y we lle bo hynny’n bosibl. Mae cleifion sydd angen asesiad yn cael eu gweld yn Ysbyty Cwm Cynon neu yn yr Uned Iechyd Menywod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ffoniwch 01443 443443 est 6212.
  • Ysbyty Tywysoges Cymru – Mae’r gwasanaeth ar gael o hyd, a hynny dros y we lle bo hynny’n bosibl. Mae’r clinigau hyn yn cael eu cynnal i’r cleifion hynny sydd angen cael eu gweld, ac mae angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw dros y ffôn. Ffoniwch 01656 752752.

 

Y fron

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg – Gwasanaethau’r Fron (clinigau cleifion allanol / mamogramau / llawdriniaeth) Mae clinigau wedi eu symud o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac mae cleifion yn cael eu gwahodd i fynd i glinigau yn Bron Brawf Cymru, Caerdydd. Bydd cleifion yn cael llawdriniaeth ar y fron yn ysbyty’r Vale.
  • Ysbyty Tywysoges Cymru – Gwasanaethau’r Fron (clinigau cleifion allanol / cleifion mewnol / llawdriniaeth) Ar hyn o bryd, mae rhai cleifion yn cael llawdriniaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ond mae’r rhan fwyaf o lawdriniaeth ar y fron yn cael ei chynnal yn ysbyty’r Vale.

Os oes unrhyw ymholiadau brys gyda chi am wasanaethau’r fron, ffoniwch: 

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg – 01443 443443 est 73056 neu est 76338  
  • Ysbyty Tywysoges Cymru – 01656 752018

 

Clinig Diagnostig Cyflym

Oherwydd y sefyllfa sydd ohoni, mae’r Clinig Diagnostig Cyflym yn asesu cleifion dros y ffôn er mwyn cynnal clinigau dros y ffôn.

Bydd rhaid i gleifion ddod i mewn am sgan CT o hyd, a bydd y gwasanaeth yn cysylltu â’r cleifion hynny i drefnu apwyntiad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yn dilyn hynny, bydd rhywun naill ai yn cysylltu â’r claf dros y ffôn i roi ei ganlyniadau iddo, neu bydd angen i’r claf fynd i’r clinig cleifion allanol yn Ysbyty Cwm Rhondda.

Os oes unrhyw ymholiadau brys gyda chi am y Clinig Diagnostig Cyflym, ffoniwch 01443 443443 est 74092.

 

Gwasanaeth Haematoleg Glinigol

Er mwyn gwneud mwy o le ar ein prif safleoedd, ac i ddiogelu cleifion, mae gwasanaethau Haematoleg Glinigol wedi eu symud dros dro o Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg (yr unedau dydd ac OPD) i Ganolfan Arloesedd Clwyfau Cymru ar bwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

I gysylltu â’r Gwasanaeth Haematoleg Glinigol, ffoniwch 01443 443443 est 28392/28544

Dyma rifau ffôn eraill – 

  • Ysbyty Tywysoges Cymru – 01792 285364 (Uned Ddydd Singleton)
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg – 01443 443443 est. 6329 (Llun – Gwener 9am – 5pm)
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl – 01685 724433 (Llun – Gwener 9am – 5pm)
  • Y tu allan i oriau – 01443 443443 (Ymgynghorydd Haematoleg ar alw)
Dilynwch ni: