Neidio i'r prif gynnwy

Cardioleg

Oherwydd y sefyllfa sydd ohoni gyda COVID-19, mae’r ffordd rydyn ni’n darparu gofal yn y Gwasanaeth Cardioleg yn newid.

Yn anffodus, mae llawer o apwyntiadau wedi cael eu canslo. Fodd bynnag, mae ymgynghorwyd a nyrsys arbenigol yn bwrw golwg dros y rhestrau aros, ac yn cysylltu â phob claf brys i gynnal adolygiadau dros y we lle bo angen.

Mae canolfan gardioleg wedi ei sefydlu Ysbyty Cwm Rhondda, ac mae rhai clinigau wyneb yn wyneb yn mynd yn eu blaen ar gyfer cleifion brys. Mae’r Uned Gardiaidd Ddydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg hefyd yn rhedeg o hyd i gynnal llawdriniaethau brys fel gosod rheolyddion calon a newid bocsys.

Os oes unrhyw ymholiadau brys gyda chi, cysylltwch â’r tîm ysgrifenyddion meddygol trwy ffonio 01443 443443 Estyniad 73579 neu Estyniad 74879.

 

Meddygaeth gyffredinol a gofal yr henoed

Yn anffodus, oherwydd COVID-19, does dim modd cynnal apwyntiadau wyneb yn wyneb ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae ymgynghorwyr yn bwrw golwg dros nodiadau cleifion ac yn cynnal ymgynghoriadau dros y ffôn. I gleifion sydd angen apwyntiad wyneb yn wyneb, rydyn ni’n parhau i edrych ar sut allwn ni gynnal y rhain ar safle anacíwt er mwyn diogelu cleifion.

Os oes unrhyw ymholiadau gyda chi, cysylltwch â thîm yr ysgrifenyddion trwy ffonio 01443 443443 Est 73583 neu Est 73566. (Ar gyfer ardal Tywysoges Cymru, ffoniwch 01656 752752 a gofynnwch am ysgrifenyddion y Gardioleg).

Dilynwch ni: