Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i wasanaethau oherwydd COVID-19 – Gwasanaethau Diabetes

Oherwydd pandemig y Coronafeirws, mae Canolfan Diabetes Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi ei symud dros dro i ben arall yr ysbyty lle roedd yr Adran Cyn-geni i Gleifion Allanol. Mae hyn gyferbyn â wardiau 19 ac 20.

Yn anffodus, bydd llawer o apwyntiadau’n cael eu gohirio am fwy o amser na’r disgwyl. Fodd bynnag, byddan nhw’n cael eu hail-drefnu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Mae pob claf gofal eilaidd o dan ofal ymgynghorydd diabetes wedi derbyn llythyr gan y Ganolfan Diabetes ynglŷn â’r oedi hwn. Mae gwybodaeth bellach gyda ni hefyd ar  https://bipctm.gig.cymru/covid-19/y-diweddaraf-am-ein-gwasanaethau/newidiadau-i-wasanaethau-gwasanaethau-ysbytai/diabetes/gwybodaeth-i-bobl-a-diabetes/.

Os bydd eich symptomau’n gwaethygu’n sylweddol wrth aros am adolygiad, ffoniwch 01443 443096 a rhowch wybod i’r tîm ar restr aros pa ymgynghorydd/arbenigwr yr ydych chi a bydd y tîm yn trefnu adolygiad dros y ffôn gydag aelod o’r tîm clinigol cyn gynted â phosib. (Ar gyfer ardal Ysbyty Tywysoges Cymru – ffoniwch 01656 752900).

Mae gwybodaeth i bobl â Diabetes hefyd ar gael ar y rhyngrwyd trwy'r ddolen ganlynol: https://bipctm.gig.cymru/covid-19/y-diweddaraf-am-ein-gwasanaethau/newidiadau-i-wasanaethau-gwasanaethau-ysbytai/diabetes/gwybodaeth-i-bobl-a-diabetes/.

Dilynwch ni: