Mae’r ffordd mae Gwasanaethau’r GIG yn cael eu darparu wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd pandemig COVID-19. Er ein bod wedi gorfod rhoi’r gorau i ddarparu rhai gwasanaethau nad oedden nhw’n rhai brys am gyfnod, rydyn ni bellach yn gweithio’n galed i ailgychwyn y gwasanaethau hyn fel y gall ein cleifion gael y gofal a’r driniaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Wrth i wasanaethau gael eu cyflwyno eto, byddwch chi’n gweld rhai newidiadau. Mae’r pandemig wedi ein dysgu i fod yn arloesol ac i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gyda ni, felly byddwn ni’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol i’ch cadw chi mor ddiogel â phosib ac i sicrhau bod gofal ar gael mor gyfleus â phosib. Ymhlith y newidiadau hyn y bydd y canlynol:
Os ydych chi’n aros am apwyntiad neu driniaeth, dydyn ni ddim wedi anghofio amdanoch. Gall gymryd ychydig o amser eto i ni ailgychwyn gwasanaethau wrth i ni flaenoriaethu diogelwch cleifion.
Rydyn ni’n cydnabod y gall fod cwestiynau gyda chi am y gwaith hwn, ac felly gobeithiwn y bydd y Cwestiynau Cyffredin isod o fudd. Gallwch chi weld y diweddaraf am ein gwasanaethau yma.
Rydyn ni wedi sefydlu llinell gymorth i gleifion ynglŷn ag ailgychwyn gwasanaethau, a gallwch chi gysylltu â’r llinell hon am gyngor cyffredinol ynglŷn â’r gwaith hwn.
Sylwch nad oes modd i’r tîm ddelio ag ymholiadau clinigol. Os oes angen cyngor clinigol arnoch chi ynglŷn â’ch cyflwr iechyd, cysylltwch â'ch fferyllfa leol, defnyddiwch wefan GIG 111, cysylltwch â'ch meddyg teulu, eich uned mân anafiadau leol neu, os oes argyfwng, eich adran achosion brys leol.
Llinell Gymorth ynglŷn ag Ailgychwyn Gwasanaethau:
01443 443058
CTM.RestartingServicesSupport@wales.nhs.uk
Mae'r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 9am a 4.30pm