Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Therapi Ocsigen yn y Cartref

Newidiadau Gwasanaeth ar gyfer COVID-19
Ar draws Cwm Taf Morgannwg, mae ymgynghoriadau ffôn wedi cychwyn ar gyfer pob claf nad oes angen sylw brys arno. Mae cleifion sydd angen gofal brys yn cael eu gweld yn dilyn sgwrs ffôn fel y gallwn sicrhau nad ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau COVID-19
Rydym ni wedi cysylltu â phob claf yn unigol i sicrhau bod ganddyn nhw'r cynlluniau triniaeth gorau posibl ac mae pecynnau achub yn eu lle (lle bo hynny'n briodol). Yn ogystal, mae pob claf wedi derbyn llythyr yn rhoi cyngor ynghylch y cynllun triniaeth parhaus a manylion cyswllt am gymorth os bydd angen hynny.
Ar gyfer cleifion ag ymholiadau yn ardal Ysbyty Tywysoges Cymru, cysylltwch â'n rhif Llinell Gymorth i Gleifion: 01656 752975.

Mae'r Gwasanaeth Therapi Ocsigen yn y Cartref yn wasanaeth asesu a gofal dilynol ar gyfer cleifion sydd wedi cael eu hatgyfeirio naill ai gan eu meddyg teulu neu yn sgil cael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae'r gwasanaeth asesu hwn ar gyfer pobl gyda lefelau isel o ocsigen yn eu gwaed.

Mae hwn yn wasanaeth dan arweiniad nyrsys sy'n gweithio'n agos gyda meddygon teulu a thimau anadlol yn ein hysbytai i sicrhau bod y gofal mwyaf priodol yn cael ei roi.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r Gwasanaeth Therapi Ocsigen yn y Cartref yn darparu gwasanaeth arbenigol i bobl sydd angen ocsigen yn y cartref.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful sydd dros 18 oed.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael trwy atgyfeiriad yn unig ac mae pob atgyfeiriad yn cael ei asesu i sicrhau ei fod yn un addas.

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi elwa o'r gwasanaeth hwn, siaradwch â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf i gael cyngor. Bydd eich meddyg teulu yn eich atgyfeirio at y gwasanaeth os teimlir bod angen hynny.

Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Gwener, 8: 30yb - 4: 30yp

Beth i'w Ddisgwyl

Mae'r Gwasanaeth Therapi Ocsigen yn y Cartref yn darparu:

  • Asesiad cynhwysfawr o'r angen am therapi ocsigen yn y cartref gyda nyrs arbenigol a / neu ymgynghorydd anadlol.
  • Cyngor a chefnogaeth i gleifion, teuluoedd a gofalwyr.
  • Atgyfeiriadau, lle bo angen, at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a all eich helpu.
  • Cefnogaeth a hyfforddiant arbenigol i feddygfeydd teulu, staff cymunedol a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill sy'n ymwneud â'ch gofal.

Cysylltwch â Ni
Gellir cysylltu â'r Tîm Asesu Ocsigen yn y Cartref yn Ysbyty Cwm Rhondda ar 01443 430022 Est 2891 *.

* Sylwch efallai y bydd angen i chi adael neges ar y system peiriant ateb. Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd. Sicrhewch eich bod yn gadael eich enw, rhif a'r rheswm dros ffonio.

Dylid cyfeirio unrhyw argyfwng ar unwaith at eich meddyg teulu, gwasanaeth 'Allan o Oriau' eich meddyg teulu, neu trwy ffonio 999.

Dolenni Defnyddiol

Dogfennau

Dilynwch ni: