Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai Clai Creadigol

Gweithdai Clai Creadigol gyda Rachel Clarke

Nod gweithdai clai creadigol Rachel yw bod yn galonogol, hamddenol a grymusol, gydag elfen gref o natur hwyliog a digymell. Byddan nhw’n ysgogol ac yn ymchwiliol, a byddan nhw’n dwyn budd i bobl yng nghymuned Cwm Taf Morgannwg sydd wedi cael eu cyfeirio at Wasanaeth WISE. Bydd Rachel yn cymryd rhan ym mhob gweithgaredd yn ystod y sesiynau fel bod pobl yn ei hystyried fel 'athrawes' yn unig.

Mae dwy sesiwn i’r gweithdai, a byddan nhw’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb gyda gweithgareddau ymarferol. Bydd pob un o’r cyfranogwyr yn cael pecyn o glai sy’n sychu ag aer ac yn cael eu hannog i deimlo’r clai a dod i arfer â sut mae’n teimlo. Dylai hyn helpu i ryddhau tensiynau yn y corff wrth roi’r bysedd i mewn i’r defnydd. Fydd y sesiynau ddim yn canolbwyntio ar greu dim byd ar hyn o bryd. Yn hytrach, byddan nhw’n gadael i emosiynau’r cyfranogwyr redeg drwy’r clai.

Yna, bydd y cyfranogwyr yn gweithio gyda'r clai gyda mwgwd am eu llygaid, a byddan nhw’n asesu ac yn trafod sut mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo. Ar ôl gwneud hynny, bydd y cyfranogwyr yn tynnu’r mygydau, yn rholio’r clai ac yn creu powlenni bach, addurniadau i’w hongian a matiau diod, gan ddefnyddio gwrthrychau a dail sych i wneud argraffiadau ar yr arwyneb.

Yn yr ail sesiwn a'r sesiwn olaf, bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i baentio eu darnau sych o’r sesiwn gyntaf, yna bydd modd eu selio nhw â resin epocsi. Bydd gweddill y sesiwn yn rhoi rhyddid iddyn nhw arbrofi gyda mwy o glai, a bydd modd addurno’r clai gartref pan fydd yn sych. Yna, bydd modd mynd â deunyddiau adref er mwyn ei baentio'n ddiweddarach. Mae Rachel yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o greadigrwydd gartref ar ôl i'r sesiynau ddod i ben.


Ynglŷn â'r artist

Mae Rachel Clarke yn gerflunydd ac yn ymarferydd creadigol sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Mae ganddi radd anrhydedd dosbarth cyntaf a thystysgrif ôl-raddedig mewn Celfyddyd Gain, ac mae’n gweithio ers blynyddoedd lawer yn y GIG gan arbenigo mewn clinigau iechyd a lles mewn practis cyffredinol.

Dros y 6 mlynedd diwethaf, mae hi wedi bod yn gweithio ar ei datblygiad academaidd a phroffesiynol. Nod Rachel yw defnyddio ei phrofiad o weithio gyda chlai i roi cyfle i bobl gydweithio mewn modd ysgogol a chreadigol er mwyn hybu lles.


Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at Wasanaeth WISE a hoffech chi gofrestru ar gyfer y Gweithdai Clai Creadigol gyda Rachel Clarke, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk

 

Dychwelyd at Gelfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles yn BIPCTM