Neidio i'r prif gynnwy

Drymio Taiko

Drymio Taiko – Ursula Frank

Beth yw drymio Taiko?

Daw drymio Taiko o Japan, lle mae drymiau’n cael eu defnyddio ar gyfer gwyliau a digwyddiadau eraill. Mae’n bosib eich bod chi wedi gweld hyn ar y teledu yn seremonïau agoriadol y Gemau Olympaidd yn Tokyo a Chwpan Rygbi'r Byd. Er bod ei wreiddiau'n ddwfn yn hanes diwylliant Japan, erbyn hyn mae Taiko yn cael ei chwarae ledled y byd ac yn cael ei fwynhau gan bobl o bob oed a gallu. Cafodd Taiko Wales ei sefydlu yn 2001, ac mae’r gymdeithas wedi bod yn meithrin enw da ers hynny fel darparwr gweithdai hygyrch, llawn hwyl a sbri gyda phwyslais arbennig ar iechyd a lles. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.Taikowales.com

Pam rhoi cynnig ar ddrymio Taiko?

Mae Taiko yn unigryw. Mae’r cyfuniad o rythmau a symudiadau’n gallu codi eich hwyliau, eich galluogi i ymarfer pob rhan o’r corff mewn ffordd ddiogel a hwyliog, yn ogystal â rhoi ffrwd i chi ddangos eich emosiynau a chyfle i chi fynegi eich hun yn greadigol. Y pwyslais mwyaf yw mwynhau, a does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o ddrymio nac o unrhyw fath arall o gerddoriaeth.

Mae'r gweithdai ar gyflymder gofalus, ac maen nhw’n datblygu ar gamau cychwynnol hawdd i fagu sgiliau creadigol a thechnegol. Mae modd addasu'r drymiau i weddu i wahanol bobl ac mae modd eu chwarae wrth sefyll neu eistedd. Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth sy'n teimlo'n rhy ymdrechgar neu anghyfforddus, ac mae modd cymryd rhan beth bynnag yw'ch statws iechyd. Y cyfan mae angen ei wneud yw bod yn fodlon i wneud llawer o sŵn!

Ursula Frank

Ynglŷn â'r artist

Mae Ursula Frank yn chwarae Taiko ers 2006 ac yn dysgu Taiko ers 2011. Ers hynny, mae hi wedi sefydlu grŵp perfformio cymunedol (Taiko Mynydd Du), wedi cynnal gweithdai ar gyfer pob math o wahanol grwpiau ac wedi teithio i Japan a Chaliffornia i gyfarfod a dysgu gan rai o athrawon gorau'r byd. Mae hi wedi rhannu ei brwdfrydedd dros y drymio gwych hwn gyda miloedd o bobl yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Ursula yn gwybod o brofiad personol pa mor fuddiol mae chwarae Taiko yn gallu bod. Mae’r gweithgaredd wedi rhoi hyder iddi, wedi gwella ei ffitrwydd ac yn gwneud gwyrthiau i'w hiechyd meddwl. Mae'n gobeithio rhannu rhai o'r manteision hyn gyda’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn.


Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at Wasanaeth WISE a hoffech chi gofrestru ar gyfer drymio Taiko gydag Ursula Frank, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk

 

Dychwelyd at Gelfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles yn BIPCTM