Neidio i'r prif gynnwy

Drama a Drymio

Drama a Drymio – Tom Supple

Mae Drama a Drymio’n cynnwys dwy gyfres o sesiynau wyneb yn wyneb dros 8 wythnos (gydag un neu ddwy ohonyn nhw ar-lein, os bydd angen). Eu nod yw bywiogi, cysylltu a grymuso’r cyfranogwyr, yn ogystal â magu hyder, hunan-barch a gwytnwch, gan ganolbwyntio ar lawenydd ac ymwybyddiaeth ofalgar. 

Mae rhagor o fanylion ynglŷn â’r ddwy sesiwn isod: 

Drama:

●  Cwrs drama 8 wythnos o hyd, gan ddefnyddio gweithgareddau’r theatr i fywiogi, cysylltu a grymuso’r cyfranogwyr
●  Defnyddio gemau, gweithgareddau grŵp a’r theatr i fagu hyder, hunan-barch, hunan-farn gadarnhaol a gwytnwch
●  Trafod creadigrwydd ar gyfer lles
●  Helpu’r cyfranogwyr i deimlo'n dda a bod yn ddigon dewr i fod yn hapus
●  Dod â’r cyfranogwyr i mewn i'r foment, gan ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar lawen
●  Chwilio am ein profiadau cyffredin mewn amgylchedd diogel a chefnogol

Drymio:

●  Cwrs cerddoriaeth 8 wythnos o hyd ar gyfer lles
●  Defnyddio offerynnau taro o bob cwr o'r byd i gael blas ar rythmau a synau
●  Gweithio ar gyfansoddiad grŵp, byrfyfyrio a rhyngweithio
●  Cyd-chwarae mewn amgylchedd diogel a chefnogol
●  Defnyddio cerddoriaeth fel cam cychwyn at ymwybyddiaeth ofalgar
●  Canolbwyntio ar gerddoriaeth fel profiad cymunedol ac ar rym sain i annog teimladau cadarnhaol


Tom Supple

Ynglŷn â'r artist

Mae Tom Supple yn Ymarferydd Creadigol gyda gradd mewn Addysg Cerdd a'r Celfyddydau. Mae Tom wedi hyfforddi a gweithio gyda grwpiau amrywiol a heriol ledled Cymru. Mae wedi cynnal prosiectau creadigol mewn ysgolion, carchardai, canolfannau cymunedol, canolfannau celfyddydau a chanolfannau preswyl.

Wrth wraidd ei waith mae gwrando ar bobl a'u grymuso. Mae Tom yn angerddol am ddefnyddio ei sgiliau i helpu i fagu gwytnwch a chreu dyfodol gwell i’r unigolion a'r cymunedau mae'n gweithio gyda nhw. Mae cerdd a drama yn rhan annatod o hyn, ac mae grym y celfyddydau i ymgysylltu ac ysbrydoli wrth wraidd ei ymarfer.


Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at Wasanaeth WISE a hoffech chi gofrestru ar gyfer Drama a Drymio gyda Tom Supple, e bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk

 

Dychwelyd at Gelfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles yn BIPCTM