Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennu a Chelf Weledol

Gweithdai Ysgrifennu Creadigol a Chelf Weledol – gyda Sue Hunt ac Uschi Turoczy

Mae Sue ac Uschi yn cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol a chelf weledol sy'n darparu ymarferion ymarferol dan gyfarwyddyd, ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr feithrin sgiliau newydd, datblygu hyder a gwydnwch.

Mae datblygu ymarfer creadigol newydd mewn grŵp cefnogol yn gallu lleddfu teimladau o unigrwydd a rhoi ymdeimlad o falchder a boddhad i chi. Mae’r gweithgareddau ystyrlon hyn yn helpu pobl i gael strwythur, i roi sylw i rywbeth arall a chysylltu â phethau newydd drwy gydol yr wythnos. Mae hyn yn werthfawr o ran hybu lles a chymhelliant cadarnhaol.

Amcanion allweddol y gweithdai:

  • Meithrin hyder
  • Annog cymhelliant a gwydnwch trwy ddatblygu allfa greadigol newydd
  • Darparu gweithgaredd ystyrlon yn ystod yr wythnos er mwyn rhoi sylw i rywbeth arall, cael strwythur ac ymgysylltu â phobl eraill
  • Lleddfu teimladau o unigrwydd, a chysylltu â phobl eraill
  • Magu syniadau creadigol er mwyn hybu lles cadarnhaol a strategaethau hunanofal

Mae’r gweithdai'n cynnwys 8 sesiwn (sesiynau 1 awr o hyd bob wythnos am 8 wythnos), sy'n ymwneud â:

  1. Hunaniaeth (pwy ydw i y tu hwnt i ddiagnosis)
  2. Cartref (diogelwch ac ymdeimlad o le a mwynhad bob dydd)
  3. Y byd o fy nghwmpas (troi at fyd natur am ysbrydoliaeth a mwynhad)
  4. Teithiau (o ble dwi wedi dod ac i ble dwi'n mynd)
  5. Cerddi haiku tymhorol (arafu – newid ac arsylwi)
  6. Ystyried y synnwyr
  7. Y cof a magwraeth (wedi eu hysbrydoli gan ein profiadau a'n hunaniaethau rhanbarthol)
  8. Myfyrio

Bob wythnos, bydd detholiad o gerddi’n cael eu rhannu a'u defnyddio er mwyn ysbrydoli'r grŵp i greu eu gwaith eu hunain ar ffurf celf ysgrifenedig a chelf weledol. Bydd yr hwyluswyr yn arwain ac yn hybu’r ymarferion creadigol hyn, a byddan nhw’n cynnig adborth drwy gydol y broses. Bydd trafodaethau a chyfleoedd rheolaidd i rannu gwaith fel ffordd ystyrlon o ddatblygu hyder a chysylltu â phobl eraill.

Bydd pecynnau creadigol yn cael eu creu a'u hanfon at yr holl gyfranogwyr cyn y gweithdai, fel bod ganddyn nhw ddetholiad o ddeunyddiau i arbrofi gyda nhw bob wythnos.


Ysgrifennu Creadigol a Chelf Weledol

Ynglŷn â'r artistiaid

Mae gan Sue Hunt brofiad o weithio fel artist proffesiynol a hwylusydd celfyddydau, ac mae Uschi Turoczy yn ymarferydd a hwylusydd ysgrifennu creadigol ar gyfer lles. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi cydweithio i gynnal gweithdai gyda'i gilydd yn rhan o raglen gelfyddydau iechyd BIP CTM, gan gyfuno'r celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol er lles.

Mae'r cydweithio hwn wedi cael adborth rhagorol gan dimau o staff a gan gleifion, wrth gyflwyno ffyrdd newydd ac arloesol o weithio ar draws disgyblaethau celfyddydol. Maen nhw’n cyflwyno gweithdai amlbwrpas ac ysbrydoledig mae unrhyw un yn gallu eu mwynhau:

"Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth mwy gwerth chweil ac iach sydd ei angen arna i ar hyn o bryd.”

"Mae'r cynnwys yn berffaith, ac mae awr yn mynd heibio’n gyflym iawn."

"Diolch i'r sesiynau, dwi'n gallu gwneud pethau doeddwn i ddim yn gwybod bod modd i mi eu gwneud o’r blaen. Ers y cwrs, dwi wedi dechrau dod allan o fy nghragen, ac rwy'n barod i roi cynnig ar bethau newydd."

"Roedd hi’n sesiwn wych a hamddenol iawn."

"Mae rhannu fy ngherdd gyda'r grŵp wedi datblygu fy hyder."


Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at Wasanaeth WISE a hoffech chi gofrestru ar gyfer Ysgrifennu Creadigol a Chelf Weledol gyda Sue Hunt ac Uschi Turoczy, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk

 

Dychwelyd at Gelfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles yn BIPCTM