Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai Ysgrifennu Creadigol

Gweithdai Ysgrifennu Creadigol – Tŷ'r Breuddwydion ac Atgofion – Penny Simpson

Yn y gyfres hon o weithdai ysgrifennu creadigol ar-lein, sy’n cael eu cynnal gan Penny Simpson ar gyfer Gwasanaeth WISE, bydd y cyfranogwyr yn creu tŷ dychmygol i ddal eu breuddwydion a'u hatgofion ynddo. Byddan nhw’n ennyn ysbrydoliaeth o Poetics of Space gan Gaston Bachelard a cherdd Roger Robinson A Portable Paradise. Byddan nhw’n adrodd straeon trwy gemau geiriau, ymarferion ysgrifennu, dŵdls a mapiau.

Gallai Tŷ'r Breuddwydion ac Atgofion fod ar ffurf llyfr syniadau, neu mae’n bosib ei roi mewn blwch neu ddrôr, gan storio darnau o ysgrifennu ynghyd â gwrthrychau arwyddocaol i'r cyfranogwyr.

Yng ngweithdai Penny, bydd cyfle bob amser i gydweithio a rhannu, a bydd pawb yn gallu ysbrydoli ac annog pobl eraill. Dyma brofiadau mae Penny’n credu y gallwn ni eu defnyddio yn ein bywyd bob dydd er mwyn cyfoethogi ein hymdeimlad o iechyd a lles.


Ynglŷn â'r artist

Mae Penny Simpson yn awdur cyhoeddedig, yn newyddiadurwr ac yn athrawes ysgrifennu creadigol, gyda diddordeb mawr mewn ymgysylltu cymdeithasol. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer sefydliadau fel y BBC a The British Council. Yn ogystal â hynny, mae hi’n gweithio ar brosiectau’r cyfryngau digidol gyda chyfarwyddwyr ffilm, artistiaid gweledol, ffotograffwyr a darlunwyr.

Mae Penny wedi cael ei chomisiynu i ddatblygu a chynnal gweithdai creadigol mewn grwpiau ysgrifennu cymunedol, a’r un diweddaraf oedd gyda Colchester Write Nights. Mae hi hefyd wedi dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Essex, ac ar hyn o bryd mae'n mentora myfyrwyr llenyddiaeth PhD (dros Zoom) sydd wedi cael anawsterau gyda'u prosiectau ymchwil ar ôl gorfod gwarchod yn ystod y cyfnod clo.

Cewch weld mwy am Penny Simpson yma


Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at Wasanaeth WISE a hoffech chi gofrestru ar gyfer y Gweithdai Ysgrifennu Creadigol – Tŷ’r Breuddwydion ac Atgofion gyda Penny Simpson, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk

 

Dychwelyd at Gelfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles yn BIPCTM