Neidio i'r prif gynnwy

Dawns Greadigol

 

Dawns Greadigol gyda Sandra Harnisch-Lacey

Amlinelliad o'r sesiynau Dawns Greadigol:

Bydd y sesiynau'n rhoi llwyfan i’r cyfranogwyr gael ymdeimlad o les corfforol a meddyliol, a byddan nhw’n cael eu teilwra i anghenion corfforol y cyfranogwyr wrth fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd anghenion corfforol pob cyfranogwr yn cael eu hystyried, a bydd y sesiynau'n cael eu haddasu yn unol â hynny. Bwriad Sandra yw bod y cyfranogwyr yn cael profiad o ddawns nid yn unig ar lefel gorfforol, ond hefyd i’w helpu i ddatblygu a chysylltu â’u hochr greadigol, trwy roi cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio eu cyrff i fynegi syniadau, emosiynau, themâu a chysyniadau.

Bydd hwn yn brofiad holistaidd i'r cyfranogwyr, trwy gyflwyno dawns fel math o gelfyddyd ac ymarfer corff. Yn ogystal â hyn, mae Sandra’n gobeithio y byddan nhw'n mwynhau ac yn ymdrochi mewn proses sy'n mynd â nhw y tu hwnt i'w harferion dyddiol.

Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar dair cangen:

  • Y corff

Mae dawnsio’n ffurfio ac yn ymgysylltu â phob agwedd ar y meddwl, y corff a'r ymennydd. Mae'n gwella ffitrwydd cyffredinol, fel cydbwysedd, cryfder y cyhyrau, ac amrywiaeth o symudiadau, yn ogystal â stamina a hyblygrwydd. Mae endorffinau’n cael eu rhyddhau trwy wneud ymarfer corff, sy'n gwella hwyliau, ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles.

  • Creadigrwydd

Creadigrwydd fydd canolbwynt pob sesiwn, er mwyn datblygu, meithrin a herio creadigrwydd y cyfranogwr, ond hefyd er mwyn eu hannog i gael profiad o ddawns fel math o gelfyddyd sy’n arwain at wahanol ffyrdd o gysylltu â’r byd o’u cwmpas.

  • Hwyl a sbri

Mwynhau gweithgaredd yw un o'r ffactorau pwysicaf er mwyn iddo lwyddo. Yn ôl y seicolegydd Mihaly Csikszentmihaly, pan fydd pobl yn cymryd rhan mewn gweithgaredd pleserus, lle byddan nhw wedi ymgolli'n llwyr yn y pethau maen nhw’n eu gwneud, byddan nhw mewn cyflwr o lif.

Cymerwch gip yma ar y sesiynau dawns greadigol iach dan arweiniad Sandra gynhaliwyd yn The Gate yn 2020.

Gweler isod dystebau gan gyfranogwyr y sesiynau hyn:

"Daeth hyn ag atgofion o'r corff yn ôl. Doeddwn i ddim yn gwybod eu bod nhw’n dal i fod yno."

“Diolch am y sesiwn heddiw, rydych chi wedi creu amgylchedd diogel a phleserus ar gyfer grŵp amrywiol mewn ffordd hawdd. Gwych."

“Creu cysylltiadau gyda dieithriaid ac yna symud gyda’n gilydd fel ffrindiau. Mae'r profiad hwn yn holistaidd ac yn hynod o werthfawr."

“Mor braf oedd teimlo’n fwy rhydd a hyblyg, a magu cryfder eto.”

"Mae fy nghefn yn teimlo'n llai bregus ac mae hynny'n ddigon i wneud i weddill fy nghorff deimlo'n wych."

"Mae fy nghorff yn mwynhau hel atgofion symud. Mae'n her, ond mae manteision meddyliol a chorfforol."

"Yn fuan ar ôl i ni ddechrau, roedd hi'n amser gorffen. Roedd amser wedi yn hedfan!"


Sandra Harnisch-Lacey

Ynglŷn â'r artist: 

Mae Sandra Harnisch-Lacey yn goreograffydd, yn artist dawns ac yn addysgwr sy’n byw ac yn gweithio yn y DU. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei MA yn y Celfyddydau, Iechyd a Lles ar lefel rhagoriaeth, er mwyn llywio a datblygu ei gwaith ym maes dawns ac iechyd.

Enillodd Sandra Wobr Sylvia Bodmer yn Trinity Laban, Conservatoire for Dance yn 1997 a Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2012.

Mae Sandra wedi bod yn gyfarwyddwr artistig ar gyfer y rhaglen ddawns yng Nghanolfan Gelfyddydau The Gate yng Nghaerdydd, yn ogystal ag yn ddarlithydd gwadd ar y cyrsiau gradd dawns ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sefydlodd ei chwmni arobryn Harnisch-Lacey Dance yn 2008 (www.harnischlaceydance.com) ac mae hi wedi teithio’n helaeth ledled Cymru, Lloegr, yr Almaen, Ffrainc, Awstria, Slofenia a Lwcsembwrg.

Yn ddiweddar, cafodd Sandra ei chomisiynu i gyfarwyddo a choreograffu’r fersiwn fyw o Igam Ogam, yr animeiddiad poblogaidd i blant ar Channel 5, a hi oedd un o artistiaid cyswllt Coreo Cymru. Enillodd The Sublime, ei ffilm fer mewn cromen ddawns, wobr arloesedd mewn gŵyl ffilm ryngwladol yn yr Unol Daleithiau.

Ers 2016, mae hi’n asiant creadigol ar y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol, gan greu prosiectau dysgu creadigol pwrpasol mewn ysgolion (a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru).

Mae Sandra hefyd yn hyfforddwraig pilates cymwys ac mae hi’n dysgu dosbarthiadau mat a sesiynau preifat ers 10 mlynedd a mwy.

Meddai Sandra:

"Trwy brofiadau personol ac ystyrlon o hunan-fynegi corfforol a chreadigol trwy ddawns gyfoes y datblygodd fy niddordeb yn y cysylltiad rhwng y celfyddydau ac iechyd."

“Grym creadigrwydd a hunan-fynegi ymgorfforedig, sy’n cysylltu’r creadigol â’r corfforol, yw beth sydd wrth wraidd fy nghariad at ddawns gyfoes. Boed hynny trwy weithio gyda phobl ifanc neu bobl ifanc eu hysbryd, mae dawns yn arf pwerus i wella lles corfforol a meddyliol pob un ohonom.


Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at Wasanaeth WISE a hoffech chi gofrestru ar gyfer Dawns Greadigol gyda Sandra Harnisch-Lacey, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk

 

Dychwelyd at Gelfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles yn BIPCTM