Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdy Crefftau Creadigol

Gweithdy Crefftau Creadigol – Becky Adams

10 o Grefftau ar gyfer Lles Meddyliol

Mae'r gweithdy crefftau creadigol yn gwrs ysgafn i hyrwyddo caredigrwydd a thawelwch. Mae'r cwrs yn addas i bob gallu ac mae'n hygyrch i bawb. Bydd y sesiynau’n para am awr. Bydd yr holl ddeunyddiau'n cael eu darparu, neu bydd modd eu hanfon nhw drwy'r post os ydych chi’n gweithio o bell. Papur, ffabrig a glud yw'r deunyddiau yn bennaf, gan fod y rhain yn hygyrch ac yn gyfarwydd i’r cyfranogwyr.

Yn ystod y gweithdy, bydd y cyfranogwyr yn gallu creu:

1. Tŷ papur – (bydd templed yn cael ei ddarparu) i adeiladu lle diogel er mwyn meddwl a chreu ynddo. Llenwch y tŷ gyda delweddau a geiriau sy'n gysylltiedig â theimlo'n ddiogel.

2. Adar papur – rhowch fywyd i’ch gobeithion a'ch breuddwydion. Bydd modd helaethu hyn i wneud addurn symudol neu addurn i’w roi yn y ffenestr.

3. Coeden ddymuniadau – addurnwch y goeden â negeseuon cadarnhaol, patrymau a gludweithiau.

4. Taith gerdded drwy fyd natur – crëwch flodau papur.

5. Llyfr poced o addewidion i'r cyfranogwyr eu hunain. Gwnewch eich llyfr eich hun gyda phocedi i'w llenwi â myfyrdodau personol.

6. Cyfri’ch bendithion. Bydd delwedd o jar yn cael ei darparu er mwyn ei haddurno a'i llenwi â delweddau a geiriau sy'n ymwneud â meddyliau cadarnhaol.

7. Gwydr hanner llawn – paentiwch, neu crëwch ludwaith o feddyliau cadarnhaol ar wydr, ar jar jam neu ar gynrychiolaeth graffig o un o’r rhain.

8. Eich ystafell chi – crëwch ystafell o gardfwrdd gan ddefnyddio gludwaith a ffotograffau. Dyma le i deimlo'n ddiogel.

9. Cerdyn post at ffrind – prosiect celf sy’n annog cysylltiad. Postiwch gerdyn post sydd wedi ei baentio â llaw atoch chi eich hun, at ffrind neu at aelod o'r teulu.

10. Casgliad o feddyliau – ewch am dro a chreu map meddwl o'ch meddyliau a'ch teimladau wrth i chi grwydro. Dyma ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar wrth sylwi ar y mân bethau ym myd natur.


Gweithdy Crefftau Creadigol - Becky Adams

Ynglŷn â'r artist

Mae Becky Adams yn artist cymhwysol o Benarth, de Cymru. Mae hi'n cyfuno ei chariad at adrodd straeon gyda phwytho papur, ffabrig hen ffasiwn, hen lyfrau braslunio a hen effemera hynafol, er mwyn creu gwaith tecstilau a llyfrau. Astudiodd hi Gelfyddyd Gain a Llenyddiaeth Saesneg yn Lerpwl (BA Anrh), ac yn ddiweddarach, enillodd MA mewn Celfyddydau Llyfrau yn Llundain.

Mae Becky yn cyfuno ei hymarfer yn y stiwdio â gweithdai cymunedol, prosiectau celf cyhoeddus a phreswyliadau, fel yng Nghanolfan Grefft Rhuthun a Chitraniketan yn ne India. Mae Becky yn arddangos ei gwaith yn rheolaidd ac mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau yn Tate, Amgueddfa Victoria ac Albert a The London School Of Printing.

Mae gan Becky 20 mlynedd o brofiad o gyflwyno gweithdai celf yn y gymuned, ac mae'n gwirioni ar hyrwyddo celf drwy bolisi mynediad i bawb. Mae ei gweithdai'n eang iawn – mae hi'n ymweld â lleoliadau addysgol, cartrefi gofal, grwpiau ieuenctid, orielau a grwpiau cymunedol ledled y DU.

Meddai Becky: "Rwy'n darparu fy ngweithdai crefft mewn iechyd fel ffordd o ddelio â’n bywyd prysur. Mae fy ymarfer creadigol fy hun yn ffordd o fyw, ac mae gwneud hyn yn rhoi cysur i mi – mae'n fy ngalluogi i dawelu fy meddwl a chanolbwyntio ar y foment bresennol. Mae gwahodd cyfranogwyr y gweithdai i rannu yn fy nghariad at greadigrwydd yn fraint anhygoel."

"Mae'r GIG wedi cyhoeddi cynllun pum cam at les meddyliol, ac mae talu sylw i'r "foment bresennol" yn gallu gwella ein hiechyd meddwl. Mae modd lleddfu straen a chynnwrf mewnol drwy ymdrochi eich hun mewn gweithgareddau crefft a gwaith creadigol. Dyma weithgaredd trochi sy’n gallu gwneud i ni ymateb i fywyd yn feddylgar, yn ogystal â gwneud i ni fyfyrio a gwneud cysylltiadau.

"Mae fy ngweithdai celf yn gyfle anffurfiol i greu ac archwilio. Ymhlith y deunyddiau rwy’n eu darparu mae ffabrig, papur a glud, er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyfranogwyr yn fwy cyfarwydd â beth i’w gwneud. Mae fy ngweithdai'n ysgafn ac yn araf, ac yn aml bydd paned o de yn cael ei gynnig i wella'r profiad!

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Becky yma: Gwefan Becky Adams

Yn ogystal â hynny, mae Becky wedi ysgrifennu erthygl sy’n cyfeirio at fanteision pwytho i’ch iechyd meddwl: https://amgueddfa.cymru/cynfas/erthygl/2282/Adnoddau-Addysg-Clytwaith-Chweongl


Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at Wasanaeth WISE a hoffech chi gofrestru ar gyfer y Gweithdy Crefftau Creadigol gyda Becky Adams, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk


Dychwelyd at Celfyddydau Creadigol, Iechyd a Lles yn BIPCTM