Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Pobl a Diwylliant

Rôl y Pwyllgor Pobl a Diwylliant yw rhoi cyngor i’r Bwrdd parthed pob mater sy’n ymwneud â gwaith ein Bwrdd Iechyd o gynllunio’r staff a’r gweithlu. Mae’r Pwyllgor hefyd yn helpu i wella’r amgylchedd sy’n cynorthwyo ac yn gwerthfawrogi’r staff. Y nod yw ennyn talent a meithrin gallu unigolion a thimau i arwain, gan gydweithio i hybu’r diwylliant dymunol drwy’r holl gwasanaeth iechyd. Bydd hyn yn darparu gofal iechyd gwell a diogelach i gleifion.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd parthed cyfeiriad datblygiad sefydliadol a strategaethau perthnasol eraill, yn ogystal a’r gwaith o’u cyflawni. Nod hyn yw sbarduno gwelliant parhaus.

Cadeirydd y Pwyllgor:
Dilys Jouvenat, Aelod Annibynnol

Aelodau Annibynnol y Pwyllgor:
Nicola Milligan (Is-gadeirydd)
Geraint Hopkins
Lynda Thomas

Cyfarwyddwyr Arweiniol:
Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl

Ysgrifennydd:
Kathrine Davies, Rheolwr Llywodraethiant Corfforoaethol
kathrine.davies2@wales.nhs.uk - 01443 744810

Mae holl fanylion rôl y Pwyllgor yn y Cylch Gorchwyl.


Papurau Cyfarfod Pwyllgor Pobl a Diwylliant

Cliciwch yma i weld Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Pobl a Diwylliant

Cofnodion Cyfarfod

Cliciwch yma i weld cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Pobl a Diwylliant
 

Dyddiadau Cyfarfod Pwyllgor Pobl a Diwylliant 2024
Dyddiadau Cyfarfod Pwyllgor Pobl a Diwylliant 2024

07 Chwefror 2024

15 Ebrill 2024

07 Awst 2024

06 Tachwedd 2024