Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Monitro'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Diben Pwyllgor Monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw sicrhau bod ein Bwrdd Iechyd yn bodloni holl ofynion Deddf Iechyd Meddwl 1983 (Fel y’i’ Diwygiwyd).

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Sut mae’r swyddogaethau dirprwyedig o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cael eu harfer (er enghraifft gan ddefnyddio’r Archwiliad Blynyddol) ac yn unol â gofynion y ‘Cod Ymarfer’.
  • Gofynion hyfforddiant amlasiantaeth y sawl sy’n ymarfer y swyddogaethau (gan gynnwys trafod yr adroddiad hyfforddiant er sicrwydd).
  • Gweithredu Deddf 1983 yn ardal Cwm Taf Morgannwg.
  • Materion sy’n codi yn sgil gweithredu pŵer rhyddhau rheolwyr ysbytai.
  • Mecanwaith addas ar gyfer adolygu polisïau/protocolau amlasiantaeth mewn perthynas â Deddf 1983.
  • Tueddiadau a phatrymau’r defnydd o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
  • Themâu archwilio traws-asiantaeth a noddi archwiliadau traws-asiantaeth priodol.
  • Gwersi a ddysgwyd yn sgil anawsterau wrth ymarfer yn ogystal â datblygu meysydd o arfer da.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn datblygu adroddiad blynyddol i'w gyflwyno i'n Bwrdd Iechyd.

Cadeirydd y Pwyllgor:
Geraint Hopkins, Aelod Annibynnol

Aelodau Annibynnol y Pwyllgor:
Dilys Jouvenat (Is-gadeirydd)
Kath Palmer
Rachel Rowlands

Cyfarwyddwyr Arweiniol:

Gethin Hughes, Prif Swyddog Gweithredu 

Ysgrifennydd:
Tyler Lewis, Swyddog Llywodraethiant Corfforaethol
Tyler.Lewis@wales.nhs.uk - 01443 744800.

Mae holl fanylion rôl y Pwyllgor yn y Cylch Gorchwyl.

 

Papurau Cyfarfod Monitro Ddeddf Iechyd Meddwl

Cliciwch yma i weld Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Monitro Ddeddf Iechyd Meddwl

Cofnodion Cyfarfod

Cliciwch yma i weld cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Monitro Ddeddf Iechyd Meddwl

 

Dyddiadau Cyfarfod y Monitro Ddeddf Iechyd Meddwl 2024
Dyddiadau Cyfarfod Pwyllgor Monitro Ddeddf Iechyd Meddwl 2024

06 Mawrth 2024

05 Mehefin 2024

04 Medi 2024

04 Rhagfyr 2024