Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Digidol a Data

Diben y Pwyllgor yw rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd wrth gyflawni ei gyfrifoldebau. Bydd yn ystyried ansawdd, cywirdeb a diogelwch gwybodaeth a data, yn ogystal â’r gallu i gael mynediad iddynt a’u defnyddio mewn modd priodol. Bydd hyn yn helpu i wella iechyd ac i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel.

Mae’r Pwyllgor yn ceisio sicrwydd (ar ran y Bwrdd) mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth yn briodol ac yn effeithiol (gan gynnwys gwybodaeth am gleifion a gwybodaeth bersonol), a hynny yn unol â chyfrifoldebau deddfwriaethol a rheoliadol. Yn ogystal â hynny, mae’n rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd mewn perthynas â chyfeiriad strategaethau digidol a data a’r gwaith o’u cyflawni, er mwyn ysgogi gwelliant parhaus a hybu gofal iechyd wedi’i alluogi’n ddigidol i gyflawni amcanion cynlluniau’r Bwrdd Iechyd.

Cadeirydd y Pwyllgor:
Ian Wells, Aelod Annibynnol

Aelodau Annibynnol y Pwyllgor:
Lynda Thomas (Is-gadeirydd)
Kath Palmer
Carolyn Donoghue 

Cyfarwyddwyr Arweiniol:
Stuart Morris, Cyfarwyddwr Digidol 

Ysgrifennydd:
Tyler Lewis, Swyddog Llywodraethiant Corfforaethol 
Tyler.Lewis@wales.nhs.uk -  01443 744800.

Mae holl fanylion rôl y Pwyllgor yn y Cylch Gorchwyl.

 

Papurau Cyfarfod Digidol a Data

Cliciwch yma i weld Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Digidol a Data

Cofnodion Cyfarfod

Cliciwch yma i weld cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Digidol a Data
 

Dyddiadau Cyfarfod y Pwyllgor Digidol a Data 2024
Dyddiadau Cyfarfod Pwyllgor Digidol a Data 2024

21 Chwefror 2024

21 Mai 2024

28 Awst 2024

19 Tachwedd 2024