Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Archwilio a Risg

Rôl Pwyllgor Archwilio a Risg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd ynghylch y trefniadau effeithiol sydd ar waith – trwy ddylunio a gweithredu system sicrwydd y Bwrdd Iechyd – er mwyn ei helpu i wneud penderfyniadau a chyflawni ei ddyletswyddau er mwyn cyflawni amcanion y Bwrdd Iechyd yn unol â’r safonau llywodraethu da a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Mae system reoli mewnol y sefydliad wedi cael ei dylunio i nodi’r risgiau posib allai atal BIP Cwm Taf Morgannwg rhag cyflawni ei nodau ac amcanion. Mae’n gwerthuso’r tebygolrwydd y bydd risgiau’n cael eu gwireddu, yn ystyried yr effaith pe baen nhw’n digwydd ac yn ceisio eu rheoli nhw’n effeithlon, yn effeithiol ac yn economaidd. Pan fydd yn briodol, bydd y pwyllgor yn rhoi cyngor i’r Bwrdd a’r Swyddog Atebol ynghylch lle mae’n bosib atgyfnerthu’r fframwaith sicrwydd a’i ddatblygu ymhellach yn ogystal â sut mae’n bosib gwneud hynny.

Cadeirydd y Pwyllgor:
Patsy Roseblade, Aelodau Annibynnol

Aelodau Annibynnol y Pwyllgor:
Ian Wells (Is-gadeirydd)
Geraint Hopkins
Kath Palmer

Cyfarwyddwyr Arweiniol:
Gareth Watts, Cyfarwyddwr Llywodraethu / Ysgrifennydd y Bwrdd (Gwag)
Sally May, Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffael

Ysgrifennydd:
Kathrine Davies, Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol
Kathrine.Davies2@wales.nhs.uk - 01443 744800.

Mae holl fanylion rôl y Pwyllgor Archwilio a Risg yn y Cylch Gorchwyl.

 

Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg

Cliciwch yma i weld Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg

Cofnodion Cyfarfod

Cliciwch yma i weld cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

Dyddiadau Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg 2024
Dyddiadau Cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg 2024 

22 Chwefror 2024

18 Ebrill 2024

20 Mehefin 2024

15 Awst 2024

17 Hydref 2024

17 Rhagfyr 2024