Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-uned dan Arweiniad Bydwragedd Tair Afon, Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful a'r Ystafelloedd dan Arweiniad Bydwragedd, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae ein cyd-uned dan arweiniad bydwragedd yn cael ei chynnal gan fydwragedd (sy'n arbenigo mewn rhoi cymorth yn ystod genedigaeth ffisiolegol) ac yn darparu'r holl ofal a chymorth sydd eu hangen arnoch wrth roi genedigaeth. Mae Cyd-uned dan Arweiniad Bydwragedd Tair Afon 'ochr yn ochr’ â’r ward geni. Mae ganddi ddau bwll geni ac ystafelloedd mawr â gwely dwbl. Byddai’r rheiny sy'n dilyn llwybr gofal dan arweiniad bydwragedd yn cael eu hannog i roi genedigaeth mewn cyd-uned dan arweiniad bydwragedd, fel Tair Afon. Os ydych chi am gael cyfle i gynllunio genedigaeth yma ond dydy genedigaeth mewn lleoliad dan arweiniad bydwragedd ddim wedi ei hargymell i chi, byddwn ni bob amser yn rhoi cymorth i chi, gyda gwybodaeth ynglŷn â’r amgylchedd hwn yn ogystal â chynllun gofal arbennig i ddiwallu eich anghenion. Yn Ysbyty Tywysoges Cymru, mae'r cyd-uned dan arweiniad bydwragedd yn cynnwys un ystafell o'r enw Ystafell Bluebell y tu hwnt i brif ardal y ward geni. Mae gwaith ar y gweill i adeiladu ystafell eni newydd sbon, gan gynnwys pwll geni. Y disgwyl yw y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn Nadolig 2021.

Dilynwch ni: