Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Obstetreg Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae dwy uned dan arweiniad obstetryddion: un yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, ac un arall yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful. Mae'r unedau hyn yn lletya’r rheiny y gallai fod angen gofal ychwanegol neu fonitro arnynt yn ystod beichiogrwydd neu enedigaeth. Mae gan bob uned bwll geni ar y ward geni, sy’n gallu monitro’r ffetws gydag offer electronig gwrth-ddŵr. Mae modd cynnal genedigaethau Cesaraidd ar y ddau safle gyda theatrau obstetreg pwrpasol. Os byddwch chi’n cael cynnig prysuro'r geni, bydd hyn hefyd yn digwydd mewn uned dan arweiniad obstetryddion. Mae staff anesthetig gyda’r ddwy uned, ac maen nhw’n darparu epidwral ar gyfer genedigaeth. Mae cyfleusterau gofal newyddenedigol gyda’r ddwy uned obstetreg, ac mae uned gofal arbennig i fabanod wedi'i chydleoli yno hefyd.

Ysbyty'r Tywysog Siarl

 

Ysbyty Tywysoges Cymru

 

Dilynwch ni: