Neidio i'r prif gynnwy

Genedigaeth yn y cartref

Mae rhoi genedigaeth yn broses ffisiolegol normal, ac mae llawer o fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn dewis rhoi genedigaeth yng nghysur eu cartref eu hunain. Mae ein gwasanaeth genedigaeth yn y cartref yn cael ei gynnal gan ein timau bydwreigiaeth cymunedol. Maen nhw’n gweithio rota ar alw 24/7 ac yn cludo'r holl offer sydd eu hangen i roi cymorth i chi wrth roi genedigaeth yn eich cartref eich hun. Mae pob menyw a pherson sy’n rhoi genedigaeth yn gallu dewis rhoi genedigaeth yn y cartref. Fodd bynnag, os na fyddwn ni’n argymell bod rhywun yn rhoi genedigaeth yn y cartref, gallwn ni gynnig trafodaeth bellach ynglŷn â’ch amgylchiadau unigol, a’ch helpu chi i wneud penderfyniad gwybodus ac i greu cynllun gofal arbennig i ddiwallu eich anghenion.

Dilynwch ni: