Neidio i'r prif gynnwy

Uned Bydwreigiaeth Annibynnol Tirion (Canolfan Geni Tirion), Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae uned bydwreigiaeth annibynnol Tirion yn cael ei chynnal gan fydwragedd (sy'n arbenigo mewn rhoi cymorth i fenywod yn ystod genedigaeth ffisiolegol). Byddan nhw’n darparu'r holl ofal a chymorth sydd eu hangen arnoch wrth roi genedigaeth. Mae Tirion ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond does dim mynediad at ward geni, theatr na chyfleusterau epidwral ar y safle hwn. Mae tair ystafell eni â gwely dwbl, gan gynnwys dau bwll geni, ac mae hyn yn creu amgylchedd tawel, heddychlon a chartrefol. Byddai’r rheiny ohonoch sy'n dilyn llwybr gofal dan arweiniad bydwragedd yn cael eich annog i roi genedigaeth mewn uned fydwreigiaeth annibynnol fel Canolfan Geni Tirion. Os ydych chi am gael cyfle i gynllunio genedigaeth yma ond dydy genedigaeth mewn lleoliad dan arweiniad bydwragedd ddim wedi ei hargymell i chi, byddwn ni bob amser yn rhoi cymorth i chi, gyda gwybodaeth ynglŷn â’r amgylchedd hwn yn ogystal â chynllun gofal arbennig i ddiwallu eich anghenion. Pan fydd angen gofal neu gymorth ychwanegol sydd ddim ar gael yng Nghanolfan Tirion, byddwn ni’n trefnu eich trosglwyddo i un o'r unedau obstetreg yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr (yma gan amlaf), neu weithiau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful.

 

Dilynwch ni: