Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n bwydo ar y fron?

  • Eisteddwch yn gyfforddus a gwnewch yn siŵr fod eich cefn yn cael ei gynnal.
  • Daliwch eich babi gan sicrhau bod ei ben a'i gorff mewn llinell syth.
  • Daliwch eich babi yn agos atoch a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnal ei wddf, ei gefn a'i ysgwyddau. Dylai eich babi allu symud ei ben yn ôl yn hawdd, a ddylai ddim gorfod estyn allan i fwydo.
  • Rhowch drwyn eich babi gyferbyn â'ch teth.
  • Gadewch i ben eich babi ddisgyn yn ôl ychydig fel bod modd i’w wefus uchaf frwsio yn erbyn eich teth. Dylai hyn helpu eich babi i agor ei geg yn llydan.
  • Pan fydd ceg eich babi wedi agor yn llydan, dylai ei ên allu cyffwrdd â'ch bron yn gyntaf, gyda'i ben wedi disgyn yn ôl ychydig fel bod modd i’w dafod gyrraedd cymaint o’r fron â phosib.
  • Unwaith y bydd eich babi wedi cydio yn y deth, dylai ei drwyn fod yn glir a dylai ei fochau edrych yn llawn ac yn grwn wrth iddo fwydo.

Useful Links

Dilynwch ni: