Neidio i'r prif gynnwy

Oes unrhyw reswm pam na fyddwn i'n gallu bwydo ar y fron?

Mewn rhai achosion prin, mae rhesymau meddygol dros beidio â bwydo ar y fron. Er enghraifft, ddylech chi ddim bwydo ar y fron os oes HIV gyda chi.

Yn ogystal â hynny, mae rhai mathau o foddion, fel lithiwm, sydd ddim yn addas ar gyfer bwydo ar y fron. Siaradwch â'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd os oes cyflwr corfforol neu feddyliol gyda chi a/neu os ydych chi’n cymryd unrhyw foddion.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron


 

 

 

 

Dilynwch ni: