Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sy'n gallu fy helpu gyda bwydo ar y fron?

Mae’n bosib eich bod chi wedi cynnwys rhywbeth yn eich cynllun geni am geisio bwydo ar y fron yn syth ar ôl yr enedigaeth. Hyd yn oed os nad ydych chi wedi ystyried hyn o'r blaen, dylai eich bydwraig fod gerllaw ar ôl yr enedigaeth i'ch helpu i ddechrau bwydo ar y fron.

Oni bai bod unrhyw broblemau, ddylech chi ddim cael eich gwahanu oddi wrth eich babi am o leiaf awr ar ôl iddo gael ei eni. Yn ystod y cyfnod hwn, dylai eich bydwraig eich helpu chi i gael cyswllt croen wrth groen â'ch babi, a bydd hyn yn hybu eich gallu i fwydo ar y fron.

Mae yna lawer o weithwyr proffesiynol a all eich cefnogi gyda bwydo ar y fron, gan gynnwys bydwragedd ysbyty a chymunedol, ymwelwyr iechyd a chydlynwyr bwydo babanod. Os oes angen rhywfaint o gymorth arnoch rhwng apwyntiadau, peidiwch ag oedi cyn ffonio eich bydwraig gymunedol neu ymwelydd iechyd.

Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar Fwydo ar y Fron, sy'n cael ei rhedeg gan gynghorwyr bwydo ar y fron gwirfoddol hyfforddedig iawn. Mae ar agor 9:30am-9:30pm 365 diwrnod y flwyddyn. Mae cymorth ar gael yn Gymraeg, Pwyleg, Bengaleg a Sylheti. Ffoniwch 0300 100 0212.

Dylai eich llyfr coch hefyd fanylion cyswllt sesiynau galw heibio, caffis a chanolfannau bwydo ar y fron lleol.

Am gefnogaeth leol ewch i'r dudalen Facebook: Cwm Taf Breastfeeding Network

Sut gall partneriaid helpu gyda bwydo ar y fron?

Os ydy eich partner yn ceisio bwydo ar y fron, gallwch chi wneud llawer i'w helpu, gan gynnwys:

  • rhoi anogaeth a sicrwydd
  • gwneud yn siŵr fod popeth gyda’ch partner sydd ei angen i fod yn gyfforddus wrth fwydo ar y fron
  • gwneud beth bynnag y gallwch i leddfu ar straen gymaint â phosib
  • siarad â'ch partner wrth fwydo ar y fron os bydd yn teimlo'n flinedig iawn
  • annog eich partner i fwyta ac yfed yn rheolaidd;
  • Cwrs Tim Babanod Ar-lein

Gallwch ddod o hyd i gwrs am ddim yma i'ch helpu chi a'ch partner i baratoi ar gyfer bwydo ar y fron.

Poster Cymorth Bwydo ar y Fron

Dilynwch ni: