Neidio i'r prif gynnwy

Bwydo ar y fron ac ysmygu

Os ydych chi'n fam newydd, mae'n bwysig iawn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Hyd yn oed os ydych chi'n ei chael hi'n anodd, mae'n bwysig peidio â rhoi'r gorau i fwydo ar y fron. Bydd eich llaeth o'r fron yn dal i ddiogelu eich babi rhag heintiau ac yn dal i ddarparu maetholion.

Os ydych chi neu eich partner yn ysmygu, ceisiwch ysmygu y tu allan fel bod eich cartref yn aros yn ddi-fwg. Hefyd, mae’n bwysig peidio â rhannu gwely gyda'ch babi os ydych chi'n ysmygu, gan fod hyn yn cynyddu'r risg o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS).

Bydd bwydo ar y fron yn rhoi dechrau da mewn bywyd i'ch babi. Os byddwch chi’n rhoi'r gorau i ysmygu, fyddwch chi ddim yn trosglwyddo rhagor o nicotin a gwenwynau eraill o fwg sigaréts i'ch babi trwy laeth y fron. Byddwch chi hefyd yn helpu i atal eich babi rhag anadlu mwg tybaco, a bydd hyn yn helpu i ddiogelu iechyd eich plentyn. Os bydd y naill riant neu’r llall yn ysmygu, bydd hyn yn cynyddu’r risg o farwolaeth yn y crud a phroblemau iechyd ar ôl genedigaeth eich babi.

Beth os ydy fy mhartner yn ysmygu hefyd?

Os ydy eich partner yn ysmygu, bydd hyn hefyd yn effeithio ar iechyd eich babi oherwydd gallech chi ddod i gysylltiad â'r mwg y mae'n anadlu allan. Trwy roi'r gorau iddi gyda'ch gilydd, byddwch yn gallu rhoi cymorth i'ch gilydd a byddwch chi’n cymryd cam cadarnhaol tuag at ddiogelu eich babi rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law.

Mwg ail-law

Pan fydd sigarét yn cael ei chynnau, bydd mwg ail-law yn cael ei greu.  Dyma'r mwg sy'n cael ei anadlu allan gan yr ysmygwr, yn ogystal â'r mwg sy'n cael ei greu gan ben y sigarét sydd wedi ei goleuo.

Mae dod i gysylltiad â mwg ail-law...

  • yn dyblu risg babanod sy'n byw gydag ysmygwyr o farwolaeth yn y crud
  • yn dyblu'r risg o feningitis bacteriol
  • yn cynyddu risg plant o gael heintiau anadlol is a chlefyd y glust ganol

Yn ôl ymchwil, mae plant sy'n byw gydag ysmygwyr yn fwy tebygol o roi cynnig ar ysmygu eu hunain.

Beth am roi'r gorau iddi gyda'ch gilydd?

O’r foment y bydd y ddau ohonoch chi’n rhoi'r gorau i ysmygu, byddwch chi’n diogelu iechyd eich babi. Os ydy eich partner neu unrhyw un arall yn y cartref am roi’r gorau iddi, siaradwch â’ch bydwraig neu ag arbenigwr mewn rhoi’r gorau i ysmygu ynglŷn â chael eich cyfeirio at Helpa Fi i Stopio.  Fel arall, gallan nhw gysylltu ag aelod o dîm Helpa Fi i Stopio:

Ffoniwch 0800 085 2219

Gofynnwch am alwad yn ôl ar-lein www.helpafiistopio.cymru/gofyn-i-rywun-eich-ffonio-yn-ol

Tecstiwch HMQ i 80818

Rhagor o gyngor

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ynglŷn â sut i roi'r gorau iddi, siaradwch â'ch bydwraig.

Dilynwch ni: