Neidio i'r prif gynnwy

Bwyd Doeth am Oes

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut i golli pwysau trwy ddilyn y ffordd iach, teimlo’n fwy egnïol a dod o hyd i gefnogaeth a syniadau i'ch helpu i newid eich arferion bwyta, yna mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi.

Rydym yn cynnig rhaglen Bwyd Doeth am Oes, sef ffordd iach o fyw, 8 wythnos o hyd, neu os na allwch ymrwymo i hyn, sesiwn gyflwyno untro er mwyn gwella eich patrymau bwyta.

Caiff Bwyd Doeth am Oes ei gyflwyno gan Ymarferwyr Cynorthwyol Dieteteg hyfforddedig, a hynny dros 8 wythnos; mae'r sesiynau'n hwyl ac yn anffurfiol a byddant yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau er mwyn eich annog a'ch cefnogi.

Gellir cyflwyno’r sesiynau ochr yn ochr ag ymarfer corff neu sesiynau coginio ymarferol os ydynt ar gael ac mae modd eu cyflwyno naill ai'n rhithwir neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol. Mae’r sesiynau’n ymdrin â’r cynnwys canlynol:

Os hoffech archebu lle neu ddarganfod mwy, sganiwch y cod QR isod neu dilynwch y ddolen isod:

https://forms.office.com/r/P1HT5eJp3d


Gwybodaeth Ddefnyddiol:

https://www.bda.uk.com/resource/weight-loss.html

Rhaglen 12-Wythnos y GIG

Ap Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dilynwch ni: