Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau Coginio

Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau coginio neu am ddysgu sut i baratoi prydau a byrbrydau iach?

Hoffech chi roi cynnig ar syniadau ryseitiau newydd i chi a'ch teulu?

Os felly, efallai y bydd Dechrau Coginio yn ddelfrydol i chi.

Mae Dechrau Coginio yn gwrs coginio ymarferol sy'n hwyl ac yn anffurfiol, ac sy’n rhedeg ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol am 8 wythnos. Nod y sesiynau, sy’n cael eu cyflwyno gan ein Hymarferwyr Cynorthwyol Deieteg hyfforddedig, yw gwneud prydau cytbwys yn fforddiadwy ac yn flasus.

Bydd Dechrau Coginio yn eich helpu i feithrin eich gwybodaeth, sgiliau a hyder er mwyn paratoi a choginio diet cytbwys; dysgu am wahanol ffyrdd o goginio, rhoi cynnig ar syniadau newydd am brydau bwyd, gan gymhwyso awgrymiadau diogelwch bwyd a bwyta'n iachach ar yr un pryd.

I gael gwybod mwy ewch i: Dechrau Coginio – Lefel 1, 2 Gredyd – Sgiliau Maeth am Oes®

 

 

Os hoffech archebu lle, sganiwch y cod QR isod neu cliciwch ar y ddolen isod:

https://forms.office.com/r/EgqtvpHYAT

Beth am roi cynnig ar rai o'n ryseitiau fforddiadwy Ryseitiau Iach - Sgiliau Maeth am Oes® neu ewch i'n tudalen Ryseitiau.

Dilynwch ni: