Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

Os ydych chi'n ystyried gwneud dewisiadau bwyd iach drosoch chi'ch hun neu'ch teulu, ond eich bod yn awyddus i wybod mwy, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi.

Bydd rhaglenni Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau bwyd trwy ddysgu mwy am fwyta'n iach, manteision maeth da i iechyd, creu prydau cytbwys a chynllunio bwydlenni iach.

I gael gwybod mwy, ewch i Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol – Lefel 1 – Sgiliau Maeth am Oes®

Mae’r sesiynau’n hwyl ac yn anffurfiol a byddant yn cael eu cyflwyno gan ein Hymarferwyr Cynorthwyol Dieteg hyfforddedig am 8 wythnos. Mae'r cwrs yn ymdrin â'r pynciau canlynol ac mae modd ei gyflwyno wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol lleol, neu ar-lein.

Os hoffech archebu lle, sganiwch y cod QR isod neu dilynwch y ddolen isod

https://forms.office.com/r/upkNVMUqp3

 

Dilynwch ni: