Sylwch: Mae Pipyn wedi ehangu ac mae bellach yn rhedeg ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg cyfan.
Mae PIPYN yn anelu at gefnogi plant (3-10 oed) a'u teuluoedd i wneud dewisiadau iach a chynaliadwy ledled Cwm Taf.
Rydym yn gobeithio helpu cymaint o blant ifanc a theuluoedd yn Merthyr, Cynon, Rhondda, Taf Elái a Phen-y-bont ar Ogwr i gael cymorth am ddim o ran meithrin arferion teuluol iach. Mae PIPYN yn cynnwys pynciau fel bwyta’n iachach ar gyllideb, cynllunio prydau bwyd, bwyd fforddiadwy, arferion siopa da, ryseitiau iach, amser sgrin, chwarae actif, chwarae fel teulu a llawer mwy!
Bydd teuluoedd yn cael cynnig pecyn o sesiynau rhyngweithiol, hwyliog i'r teulu wedi'u teilwra i'w anghenion.
Os oes gennych chi blant 3-10 oed ac yn byw yng Nghwm Taf, mae tîm PIPYN yma i helpu.
Gallwch ddarganfod beth mae'r tîm PIPYN wedi bod yn ei wneud trwy ymweld â Merthyr PIPYN Facebook neu Rhondda a Thaf-Elai PIPYN Facebook neu Pen-y-bont ar Ogwr PIPYN Facebook.
Cysylltwch â ni: CTT_Dietetics_Public-Health@wales.nhs.uk