Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor hir y bydd rhaid i fi aros am fy nhriniaeth/apwyntiad/llawdriniaeth oherwydd yr oedi mae COVID wedi ei achosi?

Mae’n flin iawn gyda ni fod pobl wedi gorfod aros mor hir am driniaeth, ond rydyn ni’n gweithio’n galed i fod yn ôl ar y trywydd iawn eto. Mae’n anodd iawn i ni ddweud pa mor hir y bydd rhaid i gleifion aros, achos mae’n dibynnu ar nifer o bethau gwahanol, yn eu plith beth yw’r driniaeth a pha arbenigedd sydd angen cynnal y driniaeth.

Wrth i ni ailgychwyn gwasanaethau, rydyn ni’n ystyried beth gallwn ni ei wneud i dorri amseroedd aros. Ymhlith y pethau rydyn ni’n eu hystyried y mae rhedeg clinigau ychwanegol, darparu gofal yn nes at y cartref a chynnig hyd yn oed mwy o apwyntiadau ar-lein er mwyn ceisio gweld cynifer o gleifion mor gyflym â phosib. Mae rhagor o wybodaeth am apwyntiadau ar-lein a gofal yn nes at gartref yma. Ein nod ni yw na fydd neb yn aros am driniaeth am fwy na dwy flynedd.

Dilynwch ni: