Rydyn ni’n cyflwyno apwyntiadau fideo er mwyn i gleifion allu gweld eu clinigydd mewn ffordd gyfleus o gysur eu cartref eu hunain.
Mae ein hapwyntiadau fideo yn hollol ddiogel a chyfrinachol. Maen nhw’n galluogi cleifion i gael yr un lefel o ofal y maen nhw’n ei dderbyn yn ein hysbytai heb orfod gadael eu cartref, teithio, na chael lle i barcio. Am ragor o wybodaeth darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion
Lle y bo hynny'n addas yn glinigol, mae’n bosibl y bydd apwyntiad fideo neu dros y ffôn yn cael ei gynnig i chi er mwyn i chi allu gweld eich clinigydd mewn modd mor gyfleus â phosib.
Os oes apwyntiad gyda chi yn barod, ewch i’r ystafell aros berthnasol isod, neu dilynwch y ddolen gafodd ei hanfon atoch chi.
Gallwch gael mynediad at yr apwyntiad fideo trwy’r we gan ddefnyddio cyfrifiadur, llechen electronig neu ffôn symudol gan ddefnyddio porwr gwe Chrome neu Safari. Bydd angen camera gwe (sydd fel arfer yn rhan o liniaduron yn barod) ynghyd â chlustffonau neu seinydd gyda meicroffon. Mae apwyntiadau yn rhad ac am ddim os ydych chi’n defnyddio Wi-Fi. Os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol, rydyn ni’n awgrymu eich bod chi’n troi’r Wi-Fi ymlaen i osgoi defnyddio’ch lwfans data. Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu ffi os nad oes gennych lwfans data fel rhan o’ch pecyn ffôn symudol.