Heddiw (dydd Mawrth Medi 21, 2021) cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, y bydd Emrys Elias yn dechrau swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am 18 mis o Hydref 01 2021 pan fydd y Cadeirydd presennol, yr Athro Marcus Longley, yn cwblhau ei dymor o bedair blynedd yn y swydd.
Drwy gydol pandemig COVID-19, mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn hynod o ddiolchgar i gael llwyth o roddion ariannol oddi wrth y cyhoedd, gyda llawer ohonyn nhw’n dweud eu bod nhw am gyfrannu at wella lles y staff.
Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 30 Medi 2021 am 10:00 am.
Bydd Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Cynon ar gau dros dro o heddiw (8 Medi) nes y byddwn ni’n dweud fel arall.
Mae’r Gwasanaeth Nyrsio Arbenigol ar gyfer Clefyd Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ehangu i gynnal clinigau yn Rhondda, Merthyr Tudful ac Aberpennar er mwyn ceisio darparu cymorth yn agosach i gartrefi cleifion.
Mae grŵp pêl-droed dan gerdded poblogaidd yn chwarae eto yn y Rhondda, ac yn gwneud gwahaniaeth penigamp i iechyd meddwl a chorfforol y cyfranogwyr.
Bydd yr Adran Cyfleusterau'n ail-lansio ei harolygon adborth o foddhad a phrofiad cleifion a chwsmeriaid ar 1 Medi 2021.
Mae prinder tiwbiau casglu gwaed ledled y DU sy'n effeithio ar bob Ysbyty a Meddygfa Teulu.
Mae nyrsys a staff Ysbyty Cwm Rhondda wedi cael eu hanrhydeddu â Gwobr Ganmoliaeth gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn eu dewrder ac ymateb cyflym.
Mae Cartref Nyrsio Glyncornel yn Nhonyrefail wedi llwyddo i gwblhau'r rhaglen addysg Chwe Cham i Lwyddiant. Mae’r rhaglen yn hybu Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes gyda chymorth Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol BIP CTM, a dreialodd y rhaglen yn rhan o Raglen Mabwysiadu a Lledaenu Comisiwn Bevan.
Mae Cwm Taf Morgannwg UHB yn gweithredu i dawelu meddwl cleifion ynghylch y broblem hon ledled y DU.
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned (CICau) yn ceisio adborth yn rheolaidd gan gleifion a’r cyhoedd am eu gwasanaethau GIG.
Ioga, garddio, coedwriaeth (buschcraft), aerobeg ar gadair, dawnsio, meddwlgarwch a cherdded: dyma rai o'r sesiynau sy'n cael eu darparu gan brosiect partneriaeth Byddwch yn Egnïol RhCT i helpu pobl ledled Rhondda Cynon Taf i wella a chynnal eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.
Mae cleifion allanol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gofal a chymorth iechyd meddwl yn gyflymach, gyda rhestrau aros ac amseroedd yn lleihau. Daw hyn yn dilyn adolygiad cynhwysfawr gan glinigwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cynnal dros 17,500 o ymgynghoriadau fideo gyda chleifion yn ystod yr 11 mis diwethaf ac, yn ôl ymchwil newydd, mae cleifion a chlinigwyr yn gadarnhaol iawn am y gwasanaeth.
Mae gwasanaeth iechyd meddwl a lles ar-lein wedi gweld cynnydd o 46% yn nifer y bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n gofyn am gymorth wrth i’r cyfyngiadau symud lacio ledled y wlad.
Dyma hysbysiad y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal ddydd Iau 29 Gorffennaf 2021 am 2pm.
Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 29 Gorffennaf 2021 am 10:00 am.
Heddiw (19 Gorffennaf), ail-agorodd y drysau yn Nhŷ Enfys (Uned Ddydd 2 gynt) ym Mharc Iechyd Keir Hardie, a chafodd defnyddwyr groeso yno unwaith eto.
Mae mainc sydd wedi ei chreu er cof am dad a'i fab bach wedi cael ei dadorchuddio ar dir Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y tu allan i'r adran lle bu farw'r babi.