Neidio i'r prif gynnwy

Lansio CTM Gwyrdd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn lansio ei fenter 'werdd' yn ffurfiol yr wythnos hon i gyd-fynd â 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd flynyddol y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 31 Hydref ac 11 Tachwedd.

CTM Gwyrdd yw gweithgor y staff sy'n ceisio sicrhau bod egwyddorion 'gwyrdd' a 'chynaliadwyedd' yn cael eu gwreiddio ar draws y Bwrdd Iechyd ym mhob agwedd ar ei waith a'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gleifion a chymunedau.

Aeth CTM Gwyrdd ati’n weithredol i ymateb i gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio, ac ar hyn o bryd mae'n ystyried sut mae modd bod yn sefydliad net-sero o ran carbon erbyn 2030, yn unol â Strategaeth Datgarboneiddio GIG Cymru.

Mae'r GIG yn defnyddio carbon yn y ffyrdd canlynol: 

Mae net-sero o ran carbon yn golygu defnyddio dim ond yr un faint o garbon ag sy'n cael ei wrthbwyso yng ngweddill Cymru.  Yn sgil mentrau 'carbon negatif' ledled Cymru, fel plannu coed, mae hyn yn golygu lleihau allbwn carbon y GIG 34% erbyn 2030, drwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, prynu’n lleol, ailgylchu, teithio’n llai ac ati.

Nod CTM Gwyrdd yw sicrhau bod egwyddorion 'gwyrdd' a 'chynaliadwyedd' yn cael eu gwreiddio ar draws ein Bwrdd Iechyd ym mhob agwedd ar ein gwaith a'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gleifion a chymunedau.

O eitemau untro, i gyflenwadau ynni a'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau, mae cyfle gan bob agwedd ar wasanaethau ein Bwrdd Iechyd i wneud pethau mewn ffordd sy'n fwy cydnaws â’r amgylchedd, ac mewn ffordd a fydd yn sicrhau byd gwell i genedlaethau'r dyfodol drwy gael effaith gadarnhaol ar iechyd.

“Mae dod yn wyrdd a gwneud popeth a wnawn yn gynaliadwy yn rhan hanfodol o'n dull o gyflawni ein cyfrifoldebau fel sefydliad iechyd y boblogaeth ar gyfer cymunedau CTM”, meddai Linda Prosser, Cyfarwyddwr Strategaeth a Thrawsnewid.

“Gall blaenoriaethu hyn wrth i ni wneud penderfyniadau ar bob lefel – fel unigolion, fel timau, fel sefydliad a gyda'n partneriaid – weddnewid bywyd ein staff, ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

“Mae hyn yn gallu bod yn rhywbeth mor syml â phenderfynu dod â chwpan y gellir ei hail-ddefnyddio i’r gwaith yn lle defnyddio cwpanau untro, diffodd goleuadau a monitorau pan na fyddan nhw’n cael eu defnyddio, i benderfyniadau ynglŷn â’r deunyddiau rydyn ni'n eu defnyddio yn y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu, yn ogystal â phrosiectau trawsnewidiol mwy sylweddol fel ein hadeiladau a'n systemau ynni.”

Ychwanegodd Linda:  “Dwi wedi rhyfeddu ar yr ymateb ar draws ein Bwrdd Iechyd i'r alwad am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y gwaith hwn, yn ogystal ag ansawdd y syniadau a'r awgrymiadau sydd wedi ein cyrraedd.

“Mae cymaint o ymrwymiad i greu momentwm gwirioneddol ynghylch hyn, a dyma enghraifft wych o #TîmCTM yn byw ein gwerthoedd trwy wrando a dysgu i wella a chydweithio yn un tîm.

“Fel y gallwch weld ar y siart hwn, hyd yn hyn rydyn ni wedi gwneud llawer o welliannau i’n hadeiladau, fel gosod goleuadau LED, defnyddio mwy o ynni solar a gwynt, cyflwyno cerbydau fflyd trydan, defnyddio llai o nwyon anaesthetig ac anadlwyr uchel eu carbon, ac ailgylchu mwy o bethau.  Wedi dweud hynny, mae llawer mwy i'w wneud o hyd er mwyn cyrraedd net-sero.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod cyfran fawr o'n gweithlu yn byw yng nghymunedau CTM hefyd, felly rydyn ni am wneud cymaint â phosibl i helpu’r staff i wneud penderfyniadau sy'n gydnaws â'r amgylchedd yn eu bywydau proffesiynol a phersonol. Yn y pen draw, mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio ar ba mor iach rydyn ni'n byw ac yn ffynnu.

“Rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan ein staff hyd yn hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn am frwdfrydedd a chyfraniad pawb. Drwy gydol cynhadledd COP 26 dros y pythefnos nesaf, bydd CTM Gwyrdd yn annog cydweithwyr i rannu syniadau ac awgrymiadau o ran sut mae CTM yn gallu bod yn wyrddach.

“Rydyn ni hefyd yn awyddus hefyd i glywed gan ein cymunedau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio #CTMGwyrdd.  Mae hyn yn effeithio ar bob un ohonom ni, felly rydyn ni am gael cymaint o syniadau â phosibl er mwyn i ni allu bod yn wyrddach!

“Rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan ein cydweithwyr hyd yn hyn, gan gynnwys ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn. Fodd bynnag, rydyn ni bob amser yn awyddus i gael mwy o bobl ar y bwrdd gan ein bod ni'n credu bod newid go iawn yn gallu digwydd pan fydd pobl yn dod ynghyd fel hyn. Os ydy unrhyw un yn teimlo mor angerddol â ni ynglŷn â gwneud CTM yn wyrddach, e-bostiwch ni.” Cysylltwch â ni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

Gorffennodd Linda drwy ddweud: “Does dim amheuaeth gen i o gwbl ein bod ni i gyd am adael y byd hwn yn lle gwell, a CTM Gwyrdd fydd un o'r ffyrdd y gallwn ni helpu i sicrhau iechyd gwell a bywydau gwell i genedlaethau'r dyfodol ar draws CTM."