Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb CTM i adolygiad thematig ac adroddiad cynnydd IMSOP

Yn rhan o’i daith tuag at welliannau trwyadl yn ei wasanaethau mamolaeth, mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi ymateb swyddogol i’r ddau adroddiad sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, 5 Hydref, gan y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth (IMSOP).

Yr adroddiadau hyn yw'r Adolygiad Thematig (yn y categori marw-enedigaethau) a'r Adroddiad Cynnydd cyffredinol.

Meddai Greg Dix, y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Mae colli babi yn drasig i unrhyw deulu, ac estynnwn ein cydymdeimlad diffuant o waelod ein calon i'r holl deuluoedd sydd wedi colli plentyn ar ôl marw-enedigaeth yn ein Bwrdd Iechyd.

“Fyddwn ni byth yn anghofio’r trasiedïau a ddioddefodd menywod, eu teuluoedd a’n staff, ac mae’r gwersi a ddysgwyd o’r achosion hyn yn sylfaen i’n cynlluniau gwella.

“Mae ein Bwrdd Iechyd yn gweithio'n barhaus i ddeall a lleihau ein hachosion o farw-enedigaeth fel mater o flaenoriaeth, ac rydym eisoes yn gwneud cynnydd mawr. Mae'r gwaith gwella sydd wedi ei ddisgrifio yn yr adroddiad yn dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein hachosion o farw-enedigaeth mor isel â phosibl, er mwyn atal unrhyw deulu rhag gorfod wynebu digwyddiad mor drasig yn ddiangen.

“Rydym yn croesawu canfyddiadau’r Adroddiad Cynnydd sydd wedi ei gyhoeddi heddiw. Mae’n sôn yn gadarnhaol am well safonau ar draws y Gwasanaethau Mamolaeth ac mae'n dystiolaeth bellach o'n hymrwymiad i wella ansawdd a diogelwch ein Gwasanaeth, yn ogystal â phrofiad pobl ohono.

“Rydym yn cydnabod pa mor anodd y bydd hi i deuluoedd ddwyn y profiad hwn i gof fel hyn, ond rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth yn ein hymateb i’r adroddiadau hyn yn tawelu meddwl ein cymunedau ein bod wedi dysgu o ddigwyddiadau yn y gorffennol. Rydym yn ymrwymedig i fod yn onest ac yn agored am yr hyn aeth o’i le, ac am sut mae’r gwersi i’w dysgu wedi bod yn sail i waith gwella ystyrlon.

 

“Mae’r gwasanaeth yn parhau i sicrhau bod menywod a’u teuluoedd wrth galon popeth a wnaiff wrth wella gwasanaethau mamolaeth. Fe fyddwn yn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio’r teuluoedd yn yr adolygiad, ac yn sicrhau mai eu profiadau nhw fydd y sylfaen gadarn y byddwn yn adeiladu arni yn y dyfodol.”

Dyma rai o’r gwelliannau a wnaed yn y categori hwn:

Dull newydd o roi'r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd

Mae’r rhaglen Cymorth i Famau i Roi'r Gorau i Ysmygu (MAMSS) a’r rhaglen 'Helpa Fi i Stopio i fy Mabi' bellach ar gael ar draws ein Bwrdd Iechyd, er mwyn helpu menywod i roi'r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd. Mae hwn yn wasanaeth craidd ac mae'n cael ei gefnogi gan dri gweithiwr cymorth gofal iechyd sydd â hyfforddiant ac arbenigedd yn y maes. Gall menywod a'u teuluoedd dderbyn cymorth i roi'r gorau i ysmygu bellach, gan gynnwys ffarmacotherapi (meddyginiaeth i gefnogi’r broses o roi'r gorau i ysmygu), o'r cyfnod atgenhedlu hyd at 28 diwrnod ar ôl yr enedigaeth. Mae nifer y menywod sy'n ysmygu ar adeg eu hapwyntiad cyn-enedigol cyntaf yn gostwng yn raddol, ac mae nifer y menywod sy'n rhoi'r gorau i ysmygu gyda chymorth MAMSS yn cynyddu.

Adolygiadau mwy cadarn o achosion o farw-enedigaeth

Mae ein Bwrdd Iechyd wedi sefydlu cyfarfodydd rheolaidd am yr Offeryn Adolygu Marwolaethau Amenedigol, er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu’n effeithiol o ddigwyddiadau ar draws pob disgyblaeth berthnasol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn mynychu Cyfarfodydd Adolygu Marwolaethau’r Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol, ac yn rhannu gwersi i’w dysgu o bob rhan o Gymru.

Gwell hyfforddiant i’r staff

Mae ein Bwrdd Iechyd yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant fel elfen allweddol o ddarparu gwasanaeth mamolaeth diogel. Rydym wedi dadansoddi anghenion hyfforddi, sy'n cynnwys yr holl hyfforddiant statudol a gorfodol. Erbyn hyn, mae cydymffurfedd yn cael ei goruchwylio'n agos gan uwch-arweinwyr clinigol ein Bwrdd Iechyd, ac mae rhaglen hyfforddiant wedi cael ei datblygu er mwyn cyrraedd safonau cenedlaethol. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys gwaith tîm amlddisgyblaethol.

Gwell cymorth i deuluoedd sy'n galaru

Rydym yn cydnabod pa mor hanfodol bwysig yw gofal galar cefnogol i deuluoedd sy’n galaru ar ôl achos trasig o golli eu babi. Rydym wedi gwneud gwelliannau mawr i'r cymorth profedigaeth sy’n cael ei gynnig i deuluoedd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hwn yn cael ei oruchwylio gan Fydwraig Arweiniol sy’n Arbenigo mewn Profedigaeth ac Arweinydd Obstetreg Ymgynghorol ar gyfer profedigaeth, er mwyn sicrhau bod ein teuluoedd bob amser yn cael gofal sensitif a thosturiol.

Gwersi i’w dysgu

Rydym wedi parhau i gryfhau ein perthynas â Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru, yn ogystal â Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru a'r rhwydwaith iechyd ehangach ledled Cymru, er mwyn bod mewn sefyllfa effeithiol i rannu a dysgu oddi wrth ein gilydd.

YMATEB BIP CWM TAF MORGANNWG I ADRODDIAD THEMATIG IMSOP O FARW-ENEDIGAETHAU

–Diwedd–

 

Nodiadau i olygyddion:

Yn rhan o raglen gwella’r Bwrdd Iechyd, mae barnau, profiadau a meddyliau menywod a’u teuluoedd wedi eu casglu, ac mae systemau wedi eu datblygu hefyd i wella diogelwch a hwyluso’r gwaith o roi gofal o safon uchel. Mae BIP CTM yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i’r afael â’r heriau hyn mewn modd agored a thryloyw ac mewn dialog â’n poblogaeth.

Dyma rai o’r gwelliannau eraill sydd wedi eu gwneud hyd yma:

  • Rydyn ni cynyddu presenoldeb meddygon obstetrig ymgynghorol ar ein wardiau geni, sy’n sicrhau bod goruchwyliaeth gan staff uwch ar gyfer gofal diogel ac effeithiol.
  • Rydyn ni wedi datblygu’r ffordd rydyn ni’n trosglwyddo cyfrifoldebau gofal rhwng staff, er mwyn sicrhau bod cynlluniau diogel yn eu lle.
  • Mae ein arbenigwyr bydwreigiaeth yn rhannu gwybodaeth arbenigol am ystod o bynciau, ac maen nhw’n cydweithio â staff eraill er mwyn gwella gwybodaeth a chefnogi ein menywod.
  • Mae gan ein strwythur llywodraethiant fframwaith clir, sydd wedi arwain at adolygiadau amserol a chamau’n cael eu cymryd, ac mae digwyddiadau hefyd wedi cael eu graddio a’u harchwilio yn sgil hynny.
  • Rydym wedi datblygu ffyrdd arloesol o rannu gwersi a ddysgwyd â grŵp ehangach o staff.
  • Mae strwythurau cymorth rhagorol gennym ar gyfer lles, ac mae’r rhain ar gael i bob aelod o staff mamolaeth os ydynt yn dymuno eu defnyddio.
  • Rydym wedi cyflwyno canllawiau mamolaeth newydd, sy’n sicrhau bod y sylfaen orau posibl yn ei lle ar gyfer gofal o’r safon uchaf.
  • Mae ein grŵp ymgysylltu Fy Mamolaeth I, Fy Ffordd I yn dod â’r gymuned, rhieni a staff meddygol ynghyd, er mwyn rhannu syniadau a chasglu adborth y gallwn ni ei ddefnyddio, i sicrhau ein bod yn ymateb i farnau cleifion ac yn ffocysu ein gwaith gwella.
  • Yn y gymuned, mae ein bydwragedd yn gwella ar dargedau i sicrhau bod menywod yn cael eu gweld yn ystod 10 wythnos gyntaf eu beichiogrwydd.
  • Rydyn ni’n anfon menywod adref o’r ysbyty yn gynharach os yw’r fam yn gofyn am hynny, ac rydyn ni hefyd yn gallu cefnogi’r mamau hynny sydd am gael ein cymorth am ychydig fwy o amser.