Neidio i'r prif gynnwy

Cwm Taf Morgannwg yn lansio Menopos@CTM ar gyfer staff ar Ddiwrnod Menopos y Byd

Ar Ddiwrnod Menopos y Byd (Hydref 18), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) yn falch iawn o fod yn lansio gwasanaeth cymorth Menopos newydd ar gyfer staff, i hybu gwell dealltwriaeth o’r menopos a sut mae'n effeithio ar berthnasoedd a theuluoedd.  Mae'r gwasanaeth hwn yn agored i ddynion a menywod.

Bydd Menopause@CTM yn lansio'r wythnos nesaf i gefnogi unrhyw un sy'n profi'r Menopos ar hyn o bryd, neu'n paratoi eu hunain ar ei gyfer ar draws y gweithlu yn CTM.

Bydd cefnogaeth arbennig yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein (trwy Microsoft Teams i ddechrau), gan gynnwys sesiwn holi ac ateb gyda’r Ymgynghorwyr Obstetreg a Gynaecoleg, Dr Helen Bayliss a Mrs Nadia Hikary-Bhal a fydd yn egluro’r gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys beth sydd ar gael o safbwynt holistaidd.  

Dywedodd Georgina Galletly, Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol sy'n cefnogi'r gwaith hwn:  “Mae lansio Menopause@CTM yn garreg filltir arwyddocaol i’n Bwrdd Iechyd, o ystyried yr effaith y gall y Menopos ei chael ar gynifer o fenywod. Mae'n bwysig i ni yn CTM ein bod yn cynnig y gefnogaeth orau posibl ar gyfer eu lles i'n cydweithwyr a'u teuluoedd, ac mae hynny'n golygu sicrhau ein bod yn cysylltu â'n gweithlu trwy eu profiadau byw personol.  

“O ganlyniad i’r lansiad heddiw, mae gennym adnoddau arbennig bellach i gefnogi staff, yn ogystal ag arbenigedd ymgynghorwyr, grwpiau cymorth a Chaffis Menopos ar lein (y byddwn yn eu rhedeg o ddechrau mis Tachwedd), a bydd pob un ohonynt yn cefnogi lles cydweithwyr yn aruthrol. 

“Mae Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud cais i ddod yn Gyflogwr sy'n Gyfeillgar i'r Menopos cydnabyddedig, sy'n brawf digamsyniol o'n hymrwymiad cadarn i gefnogi ein staff trwy'r profiad bywyd arwyddocaol hwn. Mae'n anrhydedd i mi fod yn arweinydd gweithredol ar gyfer Grŵp Menopos CTM ac edrychaf ymlaen at chwarae rhan fawr yn y gwaith hwn yn y dyfodol. " 

Dywedodd yr Obstetregydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol Helen Bayliss: “Bydd y gwasanaeth hwn yn ein hannog ni i gyd i drafod y menopos yn agored a thrwy wneud hynny byddwn yn helpu i roi diwedd ar stigma a’r embaras mae dynion a menywod yn eu teimlo yn y gweithle. Mae polisi o'r fath yn feincnod i sefydliadau eraill wrth feithrin diwylliant lle mae lles staff yn cael ei gydnabod yn sylfaen hanfodol ar gyfer gofal cleifion. ”

I gael mwy o wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael neu'r rhaglen ar gyfer 18 Hydref, ewch i dudalen flaen SharePoint neu cysylltwch â Nikki.Thomas-Roberts@wales.nhs.uk