Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd

Heddiw (dydd Mawrth Medi 21, 2021) cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, y bydd Emrys Elias yn dechrau swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg  am 18 mis, o Hydref 01 2021, pan fydd y Cadeirydd presennol, yr Athro Marcus Longley, yn cwblhau ei dymor o bedair blynedd yn y swydd.

Mae Emrys yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar hyn o bryd, ac mae ganddo brofiad sylweddol mewn arweinyddiaeth o fewn y GIG. Ar ôl hyfforddi fel Nyrs Iechyd Meddwl mae wedi dal sawl rôl glinigol a rheolaethol ar lefel weithredol a strategol ac ar lefel y Bwrdd hyd nes iddo ymddeol yn 2016 pan oedd yn Gyfarwyddwr Uned Gyflenwi GIG Cymru.

Mae gan Emrys ddiddordeb arbennig mewn gweithio amlasiantaeth a'r canlyniadau y gellir eu cyflawni, ac mae wedi cynnal sawl prosiect ac adolygiadau o wasanaethau cenedlaethol a lleol yn y maes gwaith hwn. Hefyd, cynghorodd y Llywodraeth ac arweiniodd yr adolygiad cenedlaethol o'r Dull Rhaglen Ofal ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl yr oedd ei ganfyddiadau wedi dylanwadu ar sut y cafodd y Mesur Iechyd Meddwl ei roi ar waith.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Longley: “Hoffwn longyfarch Emrys a chroesawu’r trefniadau olyniaeth hyn yn fawr. Mae hyn yn caniatáu i’n sefydliad adeiladu ar y cynnydd da a wnaed o fewn BIP CTM yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Emrys ac mae ein Prif Weithredwr, ein Tîm Gweithredol a'n Bwrdd i gyd yn edrych ymlaen at groesawu Emrys a gweithio gydag ef pan fydd yn ymuno â ni ar Hydref 1af.”

Dywedodd Mr Elias: “Mae’n anrhydedd ac rwyf yn falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

“Mae pandemig Covid-19 wedi arwain at heriau digynsail i wasanaethau iechyd ledled Cymru ac rwyf wedi ymrwymo i helpu’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau iechyd o’r radd flaenaf ar gyfer yr ardal.”

Dywedodd y Prif Weithredwr Paul Mears: “Rydym yn uchelgeisiol iawn dros CTM ac mae llawer i'w wneud o hyd i ddatblygu ein sefydliad.

“Rydw i, ynghyd â holl aelodau ein Bwrdd, yn edrych ymlaen at groesawu Emrys a gweithio gydag ef pan fydd yn dechrau yn ei swydd gyda ni, gan adeiladu ar yr holl sylfeini cadarn y bu Marcus mor allweddol wrth eu sefydlu.”