Neidio i'r prif gynnwy

GWOBR ARBENNIG I STAFF THEATRAU YSBYTY'R TYWYSOG SIARL

Mae pedwar aelod o Adran Theatrau Ysbyty'r Tywysog Siarl wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith yn ystod pandemig COVID-19 gyda gwobr arbennig.

Casglodd y tîm eu gwobr yr wythnos diwethaf gan Uchel Siryf Morgannwg Ganol, Mr Jeffrey Edwards MBE OstJ DL JP.

Mae'r wobr yn cydnabod bod y pedwar aelod o staff wedi mynd y filltir ychwanegol ar gyfer eu cleifion a'u cydweithwyr, ac mae Cwm Taf Morgannwg yn eithriadol o falch ohonyn nhw.

Darllenwch ymlaen i gael gwybod pam yn union mae'r bobl wych hyn wedi cael y gwobrau hyn.

Yn anffodus, doedd Gary Jones ddim yn gallu bod yno i gasglu ei wobr yn bersonol gan ei fod yn ynysu ar y pryd. Bydd cyflwyniad arall yn cael ei drefnu iddo, ac unwaith iddo gael ei wobr, byddwn ni’n diweddaru'r erthygl hon gyda llun o'r cyflwyniad.

Douglas Furber (Cynorthwyydd Theatr)

Mae Doug yn gynorthwyydd theatr yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ac mae wedi gweithio yn rheng flaen y GIG drwy gydol pandemig COVID-19, gan gynnwys yn yr Uned Gofal Dwys gychwynnol ar gyfer COVID-19 yn Uned Llawdriniaeth Ddydd yr ysbyty. Yn ogystal â'i ddyletswyddau craidd, cafodd Doug y cyfrifoldeb ychwanegol o wirio ffit masgiau wyneb cyfarpar diogelu personol (PPE). Mae wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod cannoedd o feddygon, nyrsys, ymarferwyr yr adran triniaethau, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a myfyrwyr sy'n gweithio yn y theatrau a’r uned gofal dwys ar gyfer COVID-19 yn cael y math cywir o fasg wyneb sy'n gydnaws â siâp eu hwyneb. Roedd y gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y rheng flaen yn cadw’n ddiogel rhag y feirws. Yn aml iawn hefyd, roedd Doug yn gweithio yn ystod eu seibiannau ac yn aros ar ôl diwedd ei sifft i wneud yn siŵr fod yr holl staff yn cael y cyfarpar hanfodol bwysig hwn sy’n achub bywydau.

Mae faint o wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cyfarpar diogelu personol o wahanol fathau a manylebau, yn ogystal â gweithdrefnau profi diogel a'r ymrwymiad sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol cynorthwyydd theatr. Fodd bynnag, mae Doug wedi mynd y filltir ychwanegol yn y rôl hon ac mae’n haeddu pob clod am ei holl ymdrechion i gadw’r tîm ehangach yn ddiogel.

Gary Jones (Ymarferydd yr Adran Triniaethau)

Mae Gary yn Ymarferydd Anesthetig yn yr Adran Lawdriniaethau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae wedi gweithio yn rheng flaen y GIG drwy gydol pandemig COVID-19, gan gynnwys yn yr Uned Gofal Dwys gychwynnol ar gyfer COVID-19 yn Uned Llawdriniaeth Ddydd yr ysbyty.

Yn ogystal â hyn, mae Gary wedi gwirfoddoli ei amser ei hun dros nifer o flynyddoedd i drefnu taith gerdded flynyddol Tîm y Theatr i fyny Tri Chopa De Cymru, er mwyn codi arian at elusennau ac achosion da lleol. Er gwaethaf yr heriau proffesiynol a phersonol mae Gary wedi gorfod eu hwynebu dros y 18 mis diwethaf, fyddai wedi troi llawer o bobl oddi ar y gwaith hwn, cafodd Gary ei ysbrydoli ymhellach i roi yn ôl i'r gymuned. Eleni, llwyddodd i ehangu'r tîm i gynnwys staff y theatrau a’r staff gofal dwys, i gydnabod sut daeth y ddau dîm ynghyd a chydweithio'n agos er mwyn ymateb i'r sefyllfa argyfyngus a ddatblygodd yn gyflym ar ddechrau'r pandemig. Gan gydnabod bod y pandemig hefyd wedi gadael ei waddol ar y gymuned o ran angen cynyddol am gymorth iechyd meddwl, hyd yn hyn mae Gary a'r tîm wedi codi dros £4,000 i Mind Cwm Taf Morgannwg. Mae'r ddolen i godi arian at ymgyrch Gary yma: https://www.justgiving.com/fundraising/gary-jones61

Sophie Roberts (Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau)

Mae Sophie yn Ymarferydd yn yr Adran Lawdriniaeth Anesthetig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, sydd wedi gweithio yn rheng flaen y GIG drwy gydol pandemig COVID-19, gan gynnwys yn yr Uned Gofal Dwys gychwynnol ar gyfer COVID-19 yn Uned Llawdriniaeth Ddydd.

Yn ogystal â'i rôl graidd hanfodol, olygodd ei bod weithiau'n gweithio dros 60 awr yr wythnos ar anterth y pandemig, mae Sophie wedi gwirfoddoli llawer o'i hamser segur gwerthfawr i helpu i ofalu am les ei chydweithwyr yn y rheng flaen fel hyrwyddwr lles yr adran. Os nad oedd yr ymrwymiad blinedig hwn yn y rheng flaen yn ddigon, mae hi'n mynd i siopa ar ôl y gwaith i wneud yn siŵr bod staff yr Uned Therapi Dwys ar gyfer COVID-19 yn gallu cael byrbrydau a diodydd, deunydd ymolchi a chysuron bach, fel eli llaw ac wyneb. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Aeth hi ati hyd yn oed i sefydlu campfa gydag offer o'r adran ffisiotherapi, a thrawsnewid ystafell orffwys i’r staff gyda wal yn llawn lluniau o enfys a chardiau gan blant yn y gymuned. Mae hi wedi bod yn gefnogol iawn ac yn gymorth i holl staff yr Uned Therapi Dwys ar gyfer COVID-19, o’r meddygon a’r nyrsys i’r glanhawyr a’r staff cymorth. Mae hi'n gweithio'n ddiflino i ymateb i bob aelod o staff sy'n cysylltu â hi, ac mae hi wedi anfon cardiau caredigrwydd at gydweithwyr sy'n gwarchod gartref sydd ddim wedi gallu gweithio. Aeth hi ar ei liwt ei hun hefyd i gydlynu'r nifer lu o roddion i Uned Therapi Dwys COVID-19 gan nifer fawr o ymdrechion i godi arian yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys darparu ffonau a thabledi er mwyn i deuluoedd weld a siarad â’u hanwyliaid, yn ogystal â darparu setiau teledu i gleifion sy'n deffro o'u coma ond sy'n dal i fod angen cymorth i anadlu. Yn ogystal â hynny, ysgrifennodd nifer o lythyrau i ddiolch i bawb sydd wedi rhoddi i’r uned. Mae'n unigolyn ysbrydoledig sydd wedi gwneud cymaint i helpu pawb mae COVID-19 wedi effeithio arnyn nhw, gan gynnwys cydweithwyr, cleifion a'u teuluoedd. Does dim diwedd ar ei charedigrwydd ac mae hi bob amser yn blaenoriaethu lles pobl eraill dros ei lles ei hun. Mae hi wedi bod yn olau llachar yn ystod cyfnod tywyll.

Tracy Scorey (Prif Nyrs, Adferiad)

Tracey yw'r Brif Nyrs Adfer yn Ysbyty'r Tywysog Siarl sydd wedi gweithio yn rheng flaen y GIG drwy gydol pandemig COVID-19, gan gynnwys yn yr Uned Gofal Dwys gychwynnol ar gyfer COVID-19 yn Uned Llawdriniaeth Ddydd. Roedd Tracey yn rhan hanfodol o’r tîm, gan oruchwylio'r gwaith o ddarparu cyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol i’r theatrau a’r Uned Therapi Dwys ar gyfer COVID-19 wrth i argyfwng cychwynnol y pandemig ddatblygu. Roedd hi hefyd yn sicrhau bod stociau digonol ar gael bob amser yn ei “chwpwrdd diwedd y byd”.

Yn ogystal â hynny, pan ddaeth y brechlyn, cymerodd Tracy y rôl o arwain Tîm Brechu’r Staff ar gyfer ysbytai Merthyr a Chynon. Mae Tracy wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod holl staff y GIG ym Merthyr a Chynon yn cael eu brechu cyn gynted â phosib, a byddai'n aml yn crwydro'r gwahanol adrannau a wardiau’n hwyr gyda'r nos ac ar y penwythnos i ddod o hyd i unrhyw un oedd heb gael cyfle i gael brechlyn. Mae hi wedi treulio llawer o'i hamser yn ymchwilio i'r brechlynnau er mwyn ateb y rhan fwyaf o gwestiynau gan aelodau o’r staff, ac yn aml mae'n gweithio y tu hwnt i ddiwedd ei sifft i sicrhau bod brechlynnau'n cael eu rhoi i bobl yn gyflym.

Mae wedi gwneud hyn yn ogystal â'i rôl graidd o arwain Uned Adfer y Theatrau yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, lle mae hi wedi parhau i arwain ei staff a gofalu am les ei chydweithwyr sy'n gwarchod neu'n gorfod hunan-ynysu. Mae hi wir yn arweinydd caredig a thosturiol, sydd wedi ymrwymo i les ei chydweithwyr ac ymdrechu i ddarparu’r gofal gorau i'w chleifion. Drwy gydol y pandemig, mae hi wedi mynd y filltir ychwanegol er mwyn cyflawni hyn.

Da iawn i'n holl enillwyr haeddiannol – diolch am gynrychioli Cwm Taf Morgannwg #ArEinGorau!