Neidio i'r prif gynnwy

Uned gofal lliniarol o'r radd flaenaf wedi gofalu am 1,200 o bobl ers iddi agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddwy flynedd yn ôl

Ers iddi agor ei drysau ddwy flynedd yn ôl, mae mwy na 1,200 o bobl wedi cael gofal mewn uned gofal lliniarol o'r radd flaenaf, sydd wedi ei hariannu i raddau helaeth gan elusennau.

Mae’r garreg filltir wedi ei datgelu i nodi dwy flynedd ers i Uned Gofal Lliniarol Arbenigol NGS Macmillan y Bwthyn agor ei drysau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Cafodd yr uned gwerth £7.25m ei hariannu’n bennaf gan Gymorth Canser Macmillan a'i bartner elusennol, y Cynllun Gerddi Cenedlaethol (NGS). Cyfrannodd y ddau sefydliad £2.5m yr un ati, a daeth gweddill yr arian gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Yn gynharach eleni, aeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru, ar ymweliad â'r uned i gwrdd â chleifion, y staff gweithgar a’r bobl oedd yn rhan o’r gwaith o adeiladu'r uned, yn rhan o'i daith haf o amgylch Cymru.

Hefyd, yn ddiweddar, cyrhaeddodd yr uned y rhestr fer y categori iechyd a lles ar gyfer gwobr fawreddog The AJ Architecture Award, sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn pensaernïaeth ledled y DU.

Mae'r uned yn cynnig gofal lliniarol i gleifion mewnol, cleifion allanol a chleifion dydd i bobl gyda chanser a chyflyrau eraill, ac mae ganddi wyth gwely i gleifion mewnol.

Cafodd yr uned ei chynllunio gan benseiri sy'n arbenigo mewn gofal lliniarol er mwyn creu amgylchedd digynnwrf, croesawgar a chyfforddus i bobl gyda salwch does dim modd ei iacháu, yn ogystal â'u hanwyliaid.

Ym mhob ystafell wely i gleifion, mae drysau sy’n arwain i’r awyr agored er mwyn galluogi cleifion i fynd â’u gwelyau allan i deras sydd wedi ei warchod â sgrin, os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Meddai Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Mae'n anodd credu bod dwy flynedd wedi bod eisoes ers i Uned Gofal Lliniarol Arbenigol NGS y Bwthyn agor i gynnig amgylchedd digynnwrf a gofalgar i bobl sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid.

“Er bod y pandemig wedi achosi heriau, hoffwn i longyfarch y staff gweithgar sydd wedi darparu gofal diwedd oes gwych yn yr uned arbennig hon, sydd wedi ei hariannu i raddau helaeth gan Macmillan a’n partner elusennol, y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, diolch i’n cefnogwyr.”

Meddai Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg “Rydw i am longyfarch pawb yn y Bwthyn ar ail ben-blwydd yr uned. Mae hi wedi bod yn braf clywed cymaint o adborth cadarnhaol ynglŷn â’r gofal sydd wedi cael ei ddarparu yn y cyfleuster gwych hwn.

“Mae’n enghraifft wych hefyd o’r ffordd rydyn ni, fel Bwrdd Iechyd, wedi gweithio mewn partneriaeth â Macmillan, y Cynllun Gerddi Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i sefydlu’r uned, a does dim clod gwell na chael ymweliad â’r uned gan Dywysog Cymru ychydig fisoedd yn ôl.”

Meddai George Plumptre, Prif Weithredwr y Cynllun Gerddi Cenedlaethol: “Mae'r Cynllun Gerddi Cenedlaethol yn falch o ddathlu'r uned ganser anhygoel hon ar ôl cyfrannu £2.5 miliwn ati. Bydd hon yn waddol parhaol yng Nghymru yn dilyn ein partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan, ac ar ôl i ni roi £17 miliwn a mwy iddi dros 37 o flynyddoedd.

“Er bod pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar gyfran fawr o ddwy flynedd gyntaf Uned Gofal Lliniarol Arbenigol NGS y Bwthyn, mae’n parhau i fod yn gyfraniad gwych i ganser a gofal lliniarol yn ne Cymru. Mae’n dangos grym y bartneriaeth rhwng y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, Cymorth Canser Macmillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.”

Am fwy o wybodaeth, cymorth neu am gyn lleied â sgwrs fach, ffoniwch Macmillan yn rhad ac am ddim ar 0808 808 0000.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol ewch i www.ngs.org.uk.