Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron - Cyfeillgarwch, Ffitrwydd a Symud i'r Dyfodol

Mae dwy fenyw, a ddaeth at ei gilydd drwy driniaeth ar gyfer canser y fron, wedi datblygu cyfeillgarwch agos ac wedi darganfod angerdd am ymarfer corff sydd wedi trawsnewid eu hadferiad.

Cafodd Julie a Cathrine, o Aberdâr, y diagnosis o ganser y fron yn 2024, a chawson nhw ofal a thriniaeth trwy ein Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach.

Ar ôl cael gofal gan Ms Jenny Long, Llawfeddyg Oncoplastig y Fron, a chael cefnogaeth gan y Nyrs Arbenigol mewn Gofal y Fron, Martine Wells, cawson nhw eu gwahodd i fynychu digwyddiad lles cleifion yn yr ysbyty.

Mae’r tîm yng Nghanolfan Bronnau’r Lili Wen Fach yn trefnu digwyddiadau lles cleifion, gyda chefnogaeth Macmillan a Moondance.

Gan nad oedden nhw wedi cwrdd o'r blaen, dechreuodd y ddwy siarad, a darganfod eu bod yn byw yn agos at ei gilydd, a daethon nhw’n ffrindiau yn gyflym.

O fewn wythnosau i gwrdd, roedd Julie wedi gwahodd Cathrine i ymuno â hi ar raglen Battle Cancer, menter ffitrwydd a chymorth rhad ac am ddim sy'n para 12 wythnos, ac sydd wedi'i chynllunio i helpu goroeswyr canser i adennill cryfder, hyder a lles cyffredinol trwy ymarfer corff strwythuredig a chymorth gan y gymuned.

Er iddi fod yn anfodlon i gytuno i ddechrau, cytunodd Cathrine i ymuno â’r rhaglen gyda Julie. Roedd y newid yn syfrdanol, gan iddyn nhw sylweddoli pa mor well yr oedden nhw’n teimlo'n gorfforol ac yn feddyliol ar ôl ychydig wythnosau'n unig.

Beth ddechreuodd fel un her, daeth yn fuan yn rhan reolaidd o'u bywydau ac yn gyfeillgarwch pwysig.

Mae'r ddwy yn disgrifio'r effaith y mae ymarfer corff wedi'i chael wrth ei helpu i deimlo'n gryfach yn gorfforol ac yn fwy gwydn yn feddyliol, ac maen nhw’n annog eraill i gymryd y cam.

“Fyddwch chi byth yn gwybod nes i chi roi cynnig arni,” dywedodd Julie. Gyda Cath yn myfyrio ar sut nad yw hi a Julie "wedi edrych yn ôl."

Mae timau Gofal y Fron, sydd wedi cefnogi Julie a Cath drwy gydol eu triniaeth, wedi canmol y cynnydd y mae’r ddwy wedi’i wneud, a’r esiampl gadarnhaol y maen nhw bellach yn ei rhoi i eraill.

Drwy rannu eu stori, mae Julie a Cath yn gobeithio ysbrydoli mwy o bobl y mae canser wedi effeithio arnyn nhw i archwilio'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw, ac i deimlo eu bod yn gallu cymryd y cam cyntaf, beth bynnag yw natur y cam hwnnw.

Gwyliwch eu stori isod:

23/10/2026