Neidio i'r prif gynnwy

Ymarferwyr Uwch o dan y chwyddwydr

Yr wythnos hon, ar draws CTM, rydym yn nodi Wythnos Ymarferwyr Uwch drwy ddathlu rôl Ymarferwyr Uwch yn ein Bwrdd Iechyd.

Mae Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACPs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi'u haddysgu hyd at lefel Meistr, sydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i'w galluogi i ehangu eu cwmpas ymarfer i ddiwallu anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. 

Caiff Ymarferwyr Clinigol Uwch eu defnyddio ar draws CTM ac maen nhw’n gweithio ar lefel uwch o ymarfer clinigol gan gynnwys ymarfer clinigol, arweinyddiaeth a rheolaeth, addysg ac ymchwil.

Heddiw, rydym yn cwrdd â Stuart Baines sy'n Radiograffydd Arbenigol Clinigol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy’n datblygu cyfleoedd Ymarfer Uwch o fewn y Bwrdd Iechyd ar gyfer staff Radioleg.  

Wrth siarad am ei rôl, dywedodd Stuart: “Rwy'n rhan o dîm adrodd Niwroleg ac yn mynychu cyfarfod Tîm Amlasiantaethol Niwroleg, sy'n gwella fy ngwybodaeth ac yn rhoi cipolwg i fi i driniaeth glinigol cleifion a sut mae fy adroddiadau radioleg yn effeithio ar driniaeth cleifion.  Rwy'n ffodus i gael cefnogaeth dda gan fy nghydweithwyr Radioleg. 

“Fel Radiograffydd Adrodd, rwy'n teimlo bod gennyf gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut mae cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth, gydag adroddiadau amserol o ansawdd uchel.  Pan fyddaf yn adnabod ac yn cyfleu canfyddiadau pwysig i'r clinigwyr yn llwyddiannus, mae'n werth chweil.

“Yn ddiweddar, fe wnes i gwblhau cymhwyster ôl-raddedig mewn dehongli pelydrau-X o’r frest/abdomen a llunio tîm o Radiograffwyr Adrodd i gyflwyno adroddiadau radioleg yr un diwrnod ar gyfer pelydrau-X o’r frest i gleifion a gafodd eu hanfon ymlaen gan feddygon teulu. 

“Rwy'n teimlo ei bod yn bwysig rhannu gwybodaeth gyda fy Radiograffydd ac fy nghydweithwyr yn yr ysbyty ac rwy’n mwynhau treulio amser yn addysgu pobl am NiwroCT i helpu eu dealltwriaeth o ganfyddiadau radioleg.  Mae gennyf gysylltiadau academaidd â sefydliadau addysg uwch lleol ac rwy'n addysgu myfyrwyr Radiograffeg israddedig ac ôl-raddedig yn rheolaidd.  

“Mae colofn olaf fy ymarfer yn golygu fy mod yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil clinigol a gwerthusiadau gwasanaeth o fewn CTM, er mwyn galluogi'r adran i wella ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i gleifion a chlinigwyr o fewn Radioleg.”