Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae rhoddion lleol yn helpu gwella llawdriniaeth ar y fron yn Lili Wen Fach

Mae cleifion sy'n derbyn gofal yng Nghanolfan Bronnau’r Lili Wen Fach yn elwa o dechnoleg newydd a ddaeth yn bosibl trwy roddion elusennol lleol.

Mae system Pintuition, a ariannwyd drwy gronfa Giving to Pink Elusen GIG CTM, yn helpu llawfeddygon i nodi'r ardal darged o feinwe'r fron yn ystod llawdriniaeth, gan ddarparu dewis amgen diwifr yn lle'r technegau traddodiadol sy'n defnyddio gwifren.

I gleifion, mae hyn yn golygu profiad mwy cyfforddus, gan roi mwy o hyblygrwydd i'r tîm clinigol wrth gynllunio a darparu gofal.

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron hwn, mae Jennifer Long, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron, yn esbonio sut mae'r dechnoleg yn gweithio a'r gwahaniaeth mae'n ei wneud i gleifion yn Lili Wen Fach.

Mae'r offer yn un enghraifft o sut mae rhoddion gan godwyr arian lleol yn helpu i wella pethau i gleifion ledled Cwm Taf Morgannwg.

Sefydlwyd Cronfa Giving to Pink trwy ymdrechion Clare Smart a chodwyr arian lleol, gyda dyhead cyffredin i wella profiad cleifion canser y fron.

Dros y blynyddoedd, mae rhoddion gan y gymuned wedi helpu i greu amgylchedd mwy croesawgar yn Lili Wen Fach, gan gynnwys gwaith celf a gwelliannau i fannau cleifion. Mae cyflwyno system Pintuition yn adeiladu ar y gefnogaeth honno, gan ddangos sut mae haelioni lleol yn parhau i fod o fudd i gleifion sy'n derbyn gofal y fron.

Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusen GIG CTM: “Mae llawer o bobl eisiau cefnogi Lili Wen Fach i roi rhywbeth yn ôl ar ôl y gofal y maen nhw, neu eu hanwyliaid, wedi'i dderbyn.

Drwy ariannu system Pintuition, rydym wedi gallu troi’r gefnogaeth honno yn weithred, gan helpu i wella gofal a phrofiad cleifion sy’n cael llawdriniaeth ar y fron.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi i helpu gwneud hyn yn bosibl.”

 

💗 Ydych chi eisiau cefnogi Lili Wen Fach?

Gallwch gefnogi Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach drwy Elusen GIG CTM, gan helpu i ariannu gwelliannau ymarferol i gleifion a theuluoedd lleol.

Os hoffech wneud rhodd neu drefnu eich gweithgaredd codi arian eich hun, gallwch ddysgu sut drwy ddilyn y ddolen hon: Elusen GIG Cwm Taf Morganwg

Neu ewch i JustGiving a chwilio am 'Snowdrop Breast Centre'.

14/10/2026